Ymgynghori ar ddyfodol trosffordd 'ddadleuol' Caernarfon
Ymgynghori ar ddyfodol trosffordd 'ddadleuol' Caernarfon
Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu ymgynghori gyda thrigolion Caernarfon ar ddyfodol trosffordd yng nghanol y dref.
Cafodd y drosffordd syn croesi rhwng ardal Twthill a chanol y dref ei hadeiladu ar ddiwedd y 70au i alluogi cerbydau’r A487 i osgoi rhannau o ganol Caernarfon.
Fe gostiodd y prosiect filiynau o bunnoedd gan hefyd olygu dinistrio llawer o adeiladau ardal Twthill, gan gynnwys ysgol, llyfrgell a dau gapel.
Mae effaith y prosiect ar yr ardal wedi aros yn y cof yn ôl un aelod o Gyngor Gwynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Olaf Cai Larsen, Dirprwy Faer Caernarfon: “’Dan ni’n sefyll rŵan mewn rhan o Gaernarfon o’r enw Twthill .
“A 'swn i’n meddwl bod tua thraean o Twthill wedi dod i lawr yn sgil be’ ddigwyddodd ‘nôl yn fanna yn y 70au.
“Mi oedd ‘na dipyn o ddadl ar y pryd”, ychwanegodd.
Daw’r ymgynghoriad yn dilyn cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru i adeiladu ffordd osgoi newydd o amgylch y dref.
Unwaith bydd y gwaith ar y drosffordd newydd yn cael ei gwblhau, bydd cyfrifoldeb am yr A487 yng nghanol Caernarfon yn cael ei drosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i Gyngor Gwynedd.
Cynllun y cyngor yw ymgynghori yn yr Hydref.
Llun: Jeff Buck