
Myfyrwraig meddygol yn ‘gaeth’ dan reolaeth y Taliban

Mae myfyrwraig meddygol yn Kabul wedi dweud wrth ITV Cymru ei bod hi’n ofni na fydd hi byth yn gwireddu ei breuddwyd o fod yn feddyg nawr fod y Taliban wedi cymryd rheolaeth o brifddinas Afghanistan, Kabul.
Dywed y fyfyrwraig, sydd heb gael ei henwi am resymau diogelwch, ei bod hi’n ofni y gallai hi gael ei gorfodi i briodi aelod o’r Taliban, a’i bod hi wedi cloi ei hun yn ei chartref.
Dywedodd hefyd ei bod hi’n ofni am ei bywyd hi a bywydau ei theulu o dan reolaeth y Taliban.
“Mae’r Taliban yn greulon a dydyn nhw ddim yn trin menywod a merched yn dda,” meddai.
“Mae’r sefyllfa wedi newid yn llwyr. Rydw i a fy nheulu – a’r merched i gyd – wedi cloi ein hunain yn ein tai ac yn byw mewn ofn.
“Mae’n bosib fydd y Taliban yn trin merched fel y gwnaethon nhw 20 mlynedd yn ôl – bydden nhw’n ein gorfodi ni i’w priodi nhw.”
‘Galw ar y DU i helpu’
Dywedodd y fyfyrwarig ei bod hi’n dymuno ffoi o Afghanistan, ond ei bod hi’n “gaeth”. Galwodd hi am gymorth gan y Deyrnas Unedig i helpu mwy o fenywod yn ei sefyllfa hi.
“Y DU yw’r unig wlad ble galla i wireddu fy mreuddwyd. Rydw i’n galw ar y DU i fy helpu i wireddu fy mreuddwyd o fod yn feddyg, oherwydd ers i’r Taliban gymryd dros Kabul, bydda i ddim yn gallu.”
Daw hyn wrth i’r Taliban gyhoeddi y bydd gan ferched hawliau ‘o fewn y gyfraith Islamaidd’, a’u bod nhw’n paratoi llywodraeth newydd ar gyfer Afghanistan.
Mae brawd yng-nghyfraith y fyfyrwraig feddygol wedi bod yn byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig a’i deulu ers sawl blwyddyn.
Dywedodd y dyn, sydd hefyd heb ei enwi am resymau diogelwch, ei fod “methu cysgu” am ei fod yn ofni am ei deulu sydd yn methu gadael Kabul.
“Dros y tri diwrnod diwethaf dydw i ddim wedi teimlo fel fy mod i yng Nghymru”, meddai’r dyn.
“Mae fy nghorff yma, ond mae fy meddwl yn Kabul. Y cwbl fedra i ei wneud yw gwylio’r newyddion a chysylltu gyda fy nheulu a fy ffrindiau.
“Mae pob person Affgan ar draws y byd mor drist, mor dorcalonnus yn gwylio’r bobl yno, yn enwedig y bobl fu farw yn y maes awyr.
“Gallwch chi weld yn barod fod ofn ar y bobl yno,” dywedodd y dyn. “Roedd rhai ohonyn nhw mor ofnus roedden nhw’n fodlon dal ymlaen i awyren gan wybod y bydden nhw’n marw, sydd yn dangos fod y sefyllfa yn wael iawn.
“Does dim byd yn gweithio’n iawn yno ar hyn o bryd felly mae’n sefyllfa wael iawn, ac rydyn ni’n poeni gymaint am ein teuluoedd.”
‘Poeni gymaint’
Dywedodd y dyn fod aelodau o’i deulu wedi gweithio i’r llywodraeth yn y gorffennol a bod ei frawd yn newyddiadurwr, sydd yn golygu eu bod nhw’n wynebu risg o ymosodiadau gan y Taliban.
“Pan rydw i’n gwybod fod fy nheulu yn Kabul yn cysgu, dydw i ddim yn gallu cysgu oherwydd rydw i’n poeni gymaint y gallai rywun guro ar eu drws a’u cymryd nhw i ffwrdd yn y nos,” meddai’r dyn.
“Does gennyn ni ddim heddlu, dim byddin, does gennyn ni neb fedrwn ni eu galw i helpu diogelu’r bobl”.
Dywedodd y dyn fod y digwyddiadau yn Kabul yn cael effaith difrifol arno.
“Dydw i ddim yn gallu gweithio ar hyn o bryd, dydw i ddim yn gallu byw yn iawn, ond does yna ddim byd fedra i ei wneud er mwyn helpu. Rydw i’n crio, mae fy ngwraig yn crio drwy’r amser, a phan welais i ddynes Affgan yn fy ardal ddoe dywedodd hi doedd hi methu siarad, roedd hi’n rhy drist.”

Galwodd y dyn ar Lywodraeth y DU i helpu pobl o Afghanistan trwy eu cludo i’r DU a rhoi lloches iddynt mor fuan ag y gallen nhw.
“Rwy’n credu mor gynted ag y mae’r Taliban yn sefydlu ei lywodraeth, fe wnawn ni golli’r cyfle hyn,” dywedodd ef.
“Mae’n sefyllfa andros o wael yn enwedig ar gyfer y rheini fuodd yn gweithio gyda’r gymuned rhyngwladol neu’r llywodraeth yno.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynllun ffoaduriaid bydd yn paratoi lloches i 5,000 o bobl sy’n gadael Afghanistan ym mlwyddyn gyntaf y cynllun.
Llun: AP