'Arweinydd byd-eang': Cyhoeddi cynllun gwynt ar y môr i borthladdoedd Cymru

Ynni adnewyddadwy

Fe allai Cymru fod yn “arweinydd byd-eang” wrth gynhyrchu egni drwy wynt ar y môr, yn ôl rhai cwmnïau sy’n cynnal porthladdoedd y wlad. 

Daw wrth i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio Llywodraeth Cymru lansio Prosbectws Porthladdoedd Llywodraeth Cymru yng nghynhadledd Ddyfodol Ynni Cymru yn adeilad ICC Cymru yng Nghasnewydd ddydd Mawrth. 

Yn ôl Rebecca Evans, mae gan Gymru “ddaearyddiaeth unigryw” all greu cyfleoedd “rhyfeddol” ar gyfer creu egni drwy wynt ar y môr. 

“Rydym yn cynrychioli un o leoliadau mwyaf strategol Ewrop ar gyfer datblygu gwynt ar y môr,” meddai. 

Ac mae rhai rheolwyr porthladdoedd yn dweud y gallai prosbectws newydd y llywodraeth helpu i “ddatgloi potensial gwynt ar y môr” drwy hybu “rôl hanfodol” porthladdoedd Cymru i’r diwydiant. 

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn rhagweld y bydd y sector gwynt ar y môr yn creu 29,000 o swyddi, yn sicrhau effaith economaidd o £4.5 biliwn, ac yn pweru dros bedair miliwn o gartrefi ledled Cymru erbyn 2030. 

Ond mae rhai o’r pleidiau eraill wedi rhybuddio y gallai fod yn “esiampl arall” o arian yn cael ei “dynnu” o Gymru i fuddsoddwyr rhyngwladol.

Ymateb y pleidiau 

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr Economi ac Ynni, Luke Fletcher AS y gallai’r cyfleoedd am ynni adnewyddadwy yng Nghymru fod yn “drawsnewidiol.” 

Ond dywedodd na fyddai modd gwneud hynny heb bwerau dros Ystâd y Goron, gan y bydd “yr arian hwn yn cael ei dynnu allan o Gymru ac i ffwrdd o'n cymunedau.” 

Dywedododd arweinydd Plaid Werdd Cymru, Anthony Slaughter, bod yna berygl o golli arian os na chaiff prosiectau eu “rheoli’n ofalus.” 

“Er mwyn sicrhau’r budd mwyaf posibl i gymunedau, mae angen perchnogaeth gyhoeddus a chymunedol ar brosiectau yn y dyfodol. Dydw i ddim eisiau gweld pobl Cymru yn talu biliau am ynni a gynhyrchir ar ein glannau ein hunain,” meddai. 

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros yr Economi, Ynni a Materion Gwledig, Samuel Kurtz AS bod teuluoedd yng Nghymru yn parhau i wynebu cynnydd yng nghost eu biliau. “Tra bod mynd i'r afael â newid hinsawdd yn hanfodol, mae dull y Ceidwadwyr yn canolbwyntio ar ddarparu ynni rhad a diogel sy'n helpu teuluoedd i drawsnewid i opsiynau glanach pan fydd hynny’n gwneud synnwyr ariannol.” 

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK: “Mae pobl Cymru wedi colli pob hyder yng ngallu Llafur i greu swyddi yn ein cymunedau anghofiedig. Bydd Reform yn cefnogi busnesau Cymru ac yn helpu pob cornel o Gymru i ffynnu, tra bod sefydliad Bae Caerdydd wedi gadael y cymunedau hyn ar ôl.”

Dywedodd y Cynghorydd Sam Bennett, Cynghorydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn Abertawe mai dim ond ei blaid e sydd â’r uchelgais i wneud y mwyaf o botensial ynni llanw, gwynt, solar a chymunedol er mwyn “darparu dyfodol gwirioneddol werdd i Gymru."

'Hanes llwyddiannus'

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn disgwyl i gyfanswm capasiti gwynt ar y môr gyrraedd dros 20 gigawat ledled Cymru erbyn 2045.

Dywedodd Ashley Curnow, Rheolwr Porthladdoedd Rhanbarthol Cymru a'r De-orllewin ar gyfer Associated British Ports bod eu porthladdoedd yn Abertawe a Phort Talbot mewn “sefyllfa unigryw” i gefnogi twf gwynt ar y tir, gwynt arnofiol ar y môr a gwaelod sefydlog yn y Môr Celtaidd. 

Ac mae Jim O'Toole, Rheolwr Gyfarwyddwr Porthladd Mostyn, yn dweud bod prosbectws Llywodraeth Cymru “yn tynnu sylw at hanes llwyddiannus Mostyn” o weithio gyda chwmnïau yn y sector gwynt ar y môr. 

Dywedodd Tom Sawyer, Prif Weithredwr Porthladd Aberdaugleddau: “Rydym yn barod i gefnogi gwaith adeiladu ar gyfer gwynt arnofiol ar y môr ac angori cadwyn gyflenwi o'r radd flaenaf yng Nghymru.”

“Mae Cymru wrth wraidd y trawsnewidiad ynni glân,” meddai Rebecca Evans.  

“Mae ein Prosbectws Porthladdoedd yn amlinellu sut mae ein dull gweithredu o ran gwynt ar y môr yn gydweithredol, wedi'i dargedu ac yn strategol, gan sicrhau gwerth hirdymor i fuddsoddwyr a chymunedau fel ei gilydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.