Cip ar gemau nos Fawrth yn y Cymru Premier JD

Sgorio
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Y Seintiau Newydd

Hanner ffordd at yr hollt ac mae’r Seintiau Newydd wedi agor bwlch o driphwynt ar frig y gynghrair yn dilyn eu buddugoliaeth o 4-0 gartref yn erbyn Y Barri, gyda Phen-y-bont a Chaernarfon yn baglu dros y penwythnos.

Bydd y pencampwyr presennol yn herio’r Cofis nos Fawrth gan anelu am eu wythfed buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth.

Ar ben arall y tabl mae pethau’n eithriadol o dynn gyda dim ond pedwar pwynt yn gwahanu’r pum clwb isaf.

Bydd dau o’r clybiau rheiny yn cyfarfod yn fyw ar Sgorio wrth i’r tîm sydd ar waelod y tabl, Llanelli, groesawu Met Caerdydd i Barc Stebonheath.

Caernarfon (3ydd) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Fawrth – 19:45

Ar ôl curo’r Barri brynhawn Sadwrn mae’r Seintiau bellach ar rediad o 11 gêm heb golli, yn cynnwys saith buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth.

Mae golwr newydd y Seintiau, Nathan Shepperd wedi setlo’n sydyn yn yr uwch gynghrair gan gadw saith llechen lân mewn 11 gêm gynghrair hyd yma.

Wedi dechrau rhagorol i’r tymor mae Caernarfon bellach wedi llithro i’r trydydd safle ar ôl colli tair o’u pedair gêm ddiwethaf.

Y Seintiau Newydd (30) a Chaernarfon (27) yw prif sgorwyr y gynghrair y tymor hwn, ond mae’r Cofis wedi methu â sgorio yn eu dwy gêm ddiwethaf.

Bydd rhaid i Gaernarfon ymdopi heb eu capten, Danny Gosset a gafodd gerdyn coch am dacl flêr brynhawn Sadwrn, yn ogystal â Sion Bradley, Josh Lock a Zack Clarke fydd ddim yn gymwys i chwarae am eu bod ar fenthyg gyda Chaernarfon o’r Seintiau.

Mae’r Seintiau wedi ennill 14 o’u 15 gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon, yn cynnwys buddugoliaeth o 2-0 yn yr ornest ddiweddaraf rhwng y timau ym mis Mawrth ble sgoriodd Sion Bradley i’r pencampwyr yn erbyn y Cofis.

Record cynghrair diweddar:

Caernarfon: ͏✅❌✅❌❌

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅

Llanelli (12fed) v Met Caerdydd (9fed) | Nos Fawrth – 19:45 (Yn fyw arlein)

Ar ôl methu ag ennill dim un o’u naw gêm agoriadol y tymor yma, mae Met Caerdydd wedi troi’r gornel gan ennill dwy gêm yn olynol heb ildio unwaith, gan godi i’r 9fed safle.

Mae Llanelli yn ôl ar waelod y domen yn dilyn colled o 3-0 yn erbyn Cei Connah ddydd Sadwrn, gyda’r Cochion yn methu â sgorio am yr wythfed tro mewn 13 o gemau ym mhob cystadleuaeth y tymor yma.

Mae dwy fuddugoliaeth Llanelli y tymor hwn wedi dod ar gaeau gwair (yn Llansawel a gartref yn erbyn Hwlffordd), tra bo Met Caerdydd heb ennill ar gae gwair ers Awst 2024 (Cfon 1-2 Met).

Er hynny, mae Met Caerdydd wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Llanelli, ond hon fydd y frwydr gyntaf rhwng y clybiau ers 2019.

Record cynghrair diweddar:

Llanelli: ❌➖✅✅❌

Met Caerdydd: ͏➖❌❌✅✅

Pen-y-bont (2il) v Hwlffordd (11eg) | Nos Fawrth – 19:45

Roedd hi’n noson rwystredig i Ben-y-bont nos Wener gyda’r tîm sy’n ail yn y tabl yn gorfod rhannu’r pwyntiau mewn gêm ddi-sgôr gyda Llansawel.

Mae tîm Rhys Griffiths bellach ar rediad o chwe gêm gynghrair heb golli, gan ildio dim ond unwaith yn ystod y cyfnod hwnnw.

Ar ôl pedair colled yn olynol roedd yna ryddhad i gefnogwyr Hwlffordd ddydd Sadwrn wrth i dîm Tony Pennock guro’r Fflint.

Ond dyw Hwlffordd m’ond wedi ennill un o’u 11 gêm ddiwethaf oddi cartref ym mhob cystadleuaeth (cyfartal 5, colli 5).

Mae Pen-y-bont ar rediad o wyth gêm heb golli yn erbyn Hwlffordd (ennill 6, cyfartal 2), a dyw’r Adar Gleision m’ond wedi sgorio unwaith yn ystod y rhediad hwnnw.

Record cynghrair diweddar:

Pen-y-bont: ͏✅✅✅✅➖

Hwlffordd: ❌❌❌❌✅

Y Bala (5ed) v Cei Connah (4ydd) | Nos Fawrth – 19:45

Bydd hi’n frwydr ddiddorol ar Faes Tegid rhwng dau dîm sy’n hafal ar bwyntiau yn y 4ydd a’r 5ed safle ac yn anelu i gyrraedd y Chwech Uchaf eleni.

Mae’r Bala wedi colli eu dwy gêm ddiwethaf o 2-0 ac fe ildion nhw gôl ryfeddol i’w rhwyd ei hun yn y gwynt ar Gampws Cyncoed ddydd Sadwrn.

Er eu dechrau addawol, dyw carfan Steve Fisher m’ond wedi ennill un o’u saith gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, ac mae goliau wedi bod yn brin i’r Bala sydd m’ond wedi rhwydo naw gôl mewn 11 gêm gynghrair.

Sgoriodd Cei Connah gwpl o goliau arbennig yn erbyn Llanelli ddydd Sadwrn, ac mae’r Nomadiaid wedi dringo’r tabl ar ôl colli dim ond un o’u pum gêm ddiwethaf.

Y Bala oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol rhwng y clybiau ym mis Medi, a dyw Hogiau’r Llyn m’ond wedi colli un o’u wyth gornest ddiwethaf yn erbyn y Nomadiaid (ennill 4, cyfartal 3).

Record cynghrair diweddar:

Y Bala: ❌➖✅❌❌

Cei Connah: ➖✅❌➖✅

Y Barri (7fed) v Llansawel (10fed) | Nos Fawrth – 19:45

Dim ond un pwynt sy’n gwahanu’r pedwar clwb yng nghanol y tabl rhwng y 4ydd a’r 7fed safle, a byddai buddugoliaeth i’r Barri nos Fawrth yn eu esgyn yn ôl i’r hanner uchaf.

Mae gan Y Barri record gryf gartref gyda’r Dreigiau m’ond wedi colli un o’u 10 gêm ddiwethaf ar Barc Jenner ym mhob cystadleuaeth (ennill 6, cyfartal 3), a dyw’r golwr George Ratcliffe heb ildio yn y bedair gêm gartref ddiwethaf.

Mae tair buddugoliaeth ddiwethaf Llansawel wedi dod mewn gemau oddi cartref, ond dyw’r Cochion heb ennill mewn saith o gemau cynghrair.

Mae’r Barri ar rediad o chwe gêm heb golli yn erbyn Llansawel, ac fe sgoriodd y Dreigiau naw o goliau mewn dwy gêm yn erbyn y Cochion wedi’r hollt y tymor diwethaf, gyda Ollie Hulbert yn rhwydo pedair o’r goliau rheiny (Lls 3-4 Barr, Barr 5-0 Lls).

Record cynghrair diweddar:

Y Barri: ✅➖✅➖❌

Llansawel: ͏❌➖❌❌➖

Y Fflint (8fed) v Bae Colwyn (6ed) | Nos Fawrth – 19:45

Mae’r goliau wedi bod yn llifo yng ngemau’r Fflint y tymor hwn (4.3 gôl y gêm) gan mae dim ond YSN a Chaernarfon sydd wedi sgorio mwy na’r Sidanwyr, a dim ond Llanelli sydd wedi ildio mwy.

Mae’n stori wahanol ym Mae Colwyn gan mae gemau’r Gwylanod sydd wedi bod â’r nifer lleiaf o goliau y tymor hwn (2 gôl y gêm).

Gyda Bae Colwyn wedi cipio 14 pwynt o’u 11 gêm agoriadol, dyma’r dechrau gorau i dîm ar ôl dyrchafiad ers i Gaernarfon gasglu 15 pwynt wedi 11 gêm yn nhymor 2018/19.

Dyw’r clybiau yma heb gyfarfod ers tair blynedd pan enillodd Bae Colwyn ar giciau o’r smotyn yn ail rownd Cwpan Nathaniel MG.

Record cynghrair diweddar:

Y Fflint: ❌➖❌✅❌

Bae Colwyn: ͏✅➖❌❌✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.