
Tad-yng-nghyfraith Grant Shapps ‘y tu ôl i’r drws’ yn ystod ymosodiad Manceinion
Mae Syr Grant Shapps wedi disgrifio profiad ei dad-yng-nghyfraith yn ystod ymosodiad ar synagog ym Manceinion.
Roedd ei dad-yng-nghyfraith, Michael Goldstone, yn un o’r rheini fu’n ceisio atal Jihad Al-Shamie rhag mynd i mewn synagog Heaton Park.
Cafodd Jihad Al-Shamie ei saethu'n farw gan heddlu arfog tu allan i’r synagog.
Roedd Michael Goldstone yn sefyll “wrth ymyl” Adrian Daulby a fu farw yn ystod ymosodiad gan Jihad Al-Shamie.
Credir bod Mr Daulby wedi cael ei saethu'n farw gan yr heddlu wrth geisio atal Jihad Al-Shamie rhag mynd i mewn i’r synagog.
Dywedodd Syr Grant wrth Sky News: “Roedden nhw wedi’u cloi i mewn, ond roedd y gwallgofddyn yma yn dal i geisio mynd i mewn.
“Roedd ganddo gyllell saith modfedd, roedd yn ei thrywanu yn erbyn y ffenestr, gan geisio ei thorri.
“Roedd yn ceisio cicio’r drysau i lawr ac yn y pen draw fe gododd potiau blodau oedd tu allan i’r synagog a’u defnyddio i geisio torri’r gwydr.
“Drwy’r cyfan roedd fy nhad-yng-nghyfraith, y rabi ac eraill i gyd wedi gosod eu hunain tu ôl i’r drws i wneud yn siŵr bod pob un o’r drysau ar gau.
“Yn anffodus cafodd y dyn oedd yn sefyll wrth ymyl fy nhad-yng-nghyfraith ei ladd wrth i fwled oedd wedi’i hanelu at y terfysgiwr ddod drwy’r drws a’i darro.
“Cafodd rhywun arall ei daro yn ei goes hefyd.”

Wrth gael ei holi am gynlluniau i roi mwy o bwerau i’r heddlu gyfyngu ar brotestiadau, dywedodd wrth Sky News: “Mae’n rhaid i ni bob amser gydbwyso rhyddid sifil, wrth gwrs.
“Y drafferth yw, os ydych chi'n caniatáu i'r pethau hyn fynd yn gwbl ddi-rwystr, bod rhai pobl yn dechrau meddwl y gallai'r math yna o ymddygiad eithafol iawn fod yn dderbyniol.
“Pa mor ansensitif oedd hi i bobl fynd allan y diwrnod canlynol ac ymuno â'r protestiadau?
“Os bydd angen addasu’r gyfraith, yna bydd gan y Llywodraeth fy nghefnogaeth i wneud hynny.”
Llun gan Peter Byrne / PA.