Arestio lladron gyda llond cist car o Ferrero Rocher
Fe wnaeth heddlu yng ngogledd Cymru arestio dau leidr gyda llond cist car o siocled Ferrero Rocher.
Dywedodd Heddlu’r Gogledd eu bod nhw’n teimlo bod y lladron honedig “wir wedi eu sbwylio nhw” gan ddynwared yr hysbyseb enwog ar gyfer y siocled o’r Eidal.
Roedd swyddogion yr heddlu wedi eu galw i adroddiad am ddwyn o siop ddydd Mercher ym Mharc Brychdyn.
Wrth gyrraedd fe wnaethon nhw ddarganfod bod y rheini oedd yn cael eu hamau eisoes wedi gadael. Fe wnaethon nhw gael eu harestio yn ddiweddarach.
“Er i'r rhai oedd yn cael eu drwgdybio honni nad oedd ganddyn nhw gar, llwyddodd swyddogion i ddod o hyd i un gerllaw,” meddai llefarydd.
“Wrth agor y cerbyd, daeth yn amlwg pam eu bod nhw wedi dweud hynny wrthym ni!
“Cafodd y ddau a ddrwgdybir eu cadw yn y ddalfa a'u rhoi gerbron y llysoedd a chael eu rhyddhau’n amodol, yn ddilys am ddwy flynedd.
“Ac na, yn anffodus, dydyn ni ddim yn cael bwyta'r eitemau a gafodd eu meddiannu.”