
'S'dim geirie 'da fi': Cyhoeddi enillwyr y Gwobrau Cymreig Cerddoriaeth Ddu cyntaf
'S'dim geirie 'da fi': Cyhoeddi enillwyr y Gwobrau Cymreig Cerddoriaeth Ddu cyntaf
Mae enillwyr y Gwobrau Cymreig Cerddoriaeth Ddu cyntaf erioed wedi cael eu cyhoeddi yng Nghaerdydd.
Cafodd y gwobrau eu cynnal yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru brynhawn Sadwrn, gyda'r cantorion Aleighcia Scott a Lily Beau ymhlith yr enillwyr.
Fe wnaeth Aleighcia Scott, sy'n gyfansoddwr ac yn feirniaid ar raglen Y Llais, gipio gwobr y Gân Gymraeg Gorau am ei chân 'Dod o'r Galon'.
Cafodd y gân reggae ei rhyddhau ym mis Mawrth wedi iddi ysgrifennu a recordio cân ei hun yn y Gymraeg am y tro cyntaf.
"I dysgu Cymraeg means gymaint i fi a mor bwysig i pobl i gweld pobl fel fi a meddwl, 'O galla i dysgu Cymraeg hefyd'," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae o just yn encouragio mwy o bobl ti'n gallu neud o hefyd."
Dywedodd yr artist reggae ei bod yn bwriadu parhau i ddefnyddio'r iaith yn ei cherddoriaeth.
"I fi all of my sets now are bilingual a mae'n mor bwysig i fi i take Cymraeg dros y byd a pobl i glywed e and it's just normal," meddai.
"It's Welsh, like we are Welsh and it's just mor bwysig i pobl i clywed e."
'Teimlo fel dwi'n perthyn'
Y gantores a'r actores Lily Beau ydi enillydd gwobr yr Artist Newydd Gorau gyda'i chân 'Run With Me'.
Wrth gael ei holi yn dilyn y seremoni, dywedodd wrth Newyddion S4C: "Fi methu credu hi wir mae just yn nuts.
"Fi 'di bod yn perfformio am flynydde, ond i gael hwn ar ôl rhyddhau EP cynta fi, fi just yn teimlo s'dim geiria 'da fi."

Ychwanegodd: "Fi'n Cymraes ddu, fi'n balch o'r ddau peth, ond weithie mae'n teimlo fel os dwi'n Cymraeg dwi'n rhy ddu, os dwi'n du dwi'n rhy Gymraeg. Mae 'na rhyw fath o balance fi'n teimlo fi heb 'di ffeindio 'to.
"Ond wrth ddod fan hyn a gweld y ddathliad o'r iaith Gymraeg hefyd yn yr adeilad 'ma, all the Black magic sydd o gwmpas, mae o just dwi'n teimlo fel dwi'n perthyn a fi'n rili balch o hwnna'n bendant."
Dyma restr lawn o'r enillwyr:
Y Gân Gymraeg Gorau - Aleighcia Scott, 'Dod o'r Galon'
Y Gân Reggae Gorau - Reuel Elijah, 'Straight Rum'
Y Gân Gospel Gorau - Soel Music, 'Calon lân & Tukwagala'
Y Gân RnB/Soul Gorau - Miss Faithee, 'Your Name'
Y Gân Afrobeats Gorau - DanoRano, 'No Pressure'
Y Gân Hip hop / Rap / Grime Gorau - 'Mace the Great, Disrespectful'
Y Sengl Gorau - Kima Otung, 'I'm Cute'
Y Cyfansoddwr Gorau - Kizzy Crawford, 'Codwr y Meirwon'
Y Fideo Gerddoriaeth Gorau - Sage Todz, 'Stopia Cwyno (Valley Boy)'
Yr Artist Newydd Gorau - Lily Beau, 'Run With Me'
Yr Albwm Gorau - Lemfrek, 'Blood, Sweat & Fears'