
Apêl am dyst ar ôl llofruddiaeth menyw yng Nghaerdydd
Mae swyddogion heddlu yn chwilio am unigolyn a allai fod â gwybodaeth yn ymwneud â llofruddiaeth honedig menyw o Gaerdydd.
Fe gafodd swyddogion eu galw i ardal South Morgan Place yng Nglan yr Afon (Riverside) fore Iau wedi adroddiadau fod menyw wedi'i hanafu yn ddifrifol.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw Niwunhellage Dona Nirodha Kalapni Niwunhella, 32 oed, a oedd yn cael ei galw yn Nirodha, yn y fan a'r lle.
Mae Thisara Weragalage, 37 oed, o Bentwyn, wedi ymddangos o flaen llys wedi'i gyhuddo o’i llofruddio.
Nid yw swyddogion yn edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’i marwolaeth.
Ond mae’r llu yn apelio am wybodaeth i geisio adnabod unigolyn sydd i’w weld ar gamerâu cylch cyfyng, oedd yn yr ardal ar y pryd. Mae swyddogion yn gobeithio y gallai’r unigolyn fod â gwybodaeth a fyddai’n gallu cynorthwyo’r ymchwiliad.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Graham Williams, o dîm Troseddau Mawr Heddlu De Cymru: “Hoffwn ddiolch i’r gymuned am y gefnogaeth y maent wedi’i rhoi i’r ymchwiliad hyd yn hyn.
“Rydym bellach yn gwneud apêl bellach i’r person yn y ddelwedd CCTV hon ddod ymlaen.
“Roeddent yn bresennol yn South Morgan Place am 06.36 ar Awst 21, tua awr cyn i Nirodha gael ei darganfod.
“Rhaid i mi bwysleisio nad ydynt wedi gwneud dim byd o’i le, ond efallai bod ganddynt wybodaeth bwysig a fyddai’n cynorthwyo ein hymholiadau ymhellach mewn perthynas â’r hyn a ddigwyddodd i Nirodha.”
Fe allai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am yr unigolyn dan sylw gysylltu â’r llu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2500268768.