Carchar i dri dyn am geisio llofruddio a herwgipio dyn o Ferthyr
Mae tri dyn o Loegr wedi cael eu carcharu am gyfanswm o 75 mlynedd am geisio llofruddio a herwgipio dyn o Ferthyr.
Cafodd Tyshane Brown o Weymouth, a George Miles-Brown a Luke Williams o Henffordd, eu carcharu ddydd Gwener.
Ar 10 Chwefor eleni roedd dyn 28 oed o Ferthyr wedi mynd i'r ysbyty gyda sawl clwyf trywanu.
Dywedodd y dyn wrth yr heddlu ei fod wedi cyrraedd parc manwerthu gyda'i bartner i gyfarfod Luke Williams.
Roedd wedi dioddef ymosodiad mewn maes parcio ac wedi cael ei orfodi mewn i gerbyd, meddai.
Fe gafodd y dyn ei orfodi mewn i gar arall gan Tyshane Brown a Williams ac fe gafodd ei lygaid eu rhwymo (blindfolded) ac fe gafodd ei herwgipio.
Cafodd ei drywanu wrth geisio dianc ac roedd y tri dyn wedi ffonio ei bartner a mynnu £5,000 er mwyn ei ryddhau.
Clywodd y fenyw ei phartner yn bloeddio am gymorth ac yn dweud ei fod yn cael ei drywanu.
Ceisio dianc
Cafodd y dyn ei yrru o gwmpas Merthyr tra bod ei barner wedi cysylltu gyda thad y dyn a'i ffrindiau er mwyn ei achub.
Fe gafodd trefniadau eu gwneud gyda'r herwgipwyr ar gyfer talu'r £5,000, gyda phartner y dyn o Ferthyr yn esgus gadael arian parod yn y parc manwerthu.
Wrth i dad a ffrindiau'r dioddefwr nesáu er mwyn ei achub, roedd anhrefn wrth i'r herwgipwyr geisio dianc.
Chwalwyd ffenestr y car yn ystod yr anhrefn, ond nid oedd y dyn o Ferthyr wedi gallu dianc. Rhuthrodd y car i ffwrdd, gyda thad y dioddefwr yn ei ddilyn, gan daro'r cerbyd yn y pen draw mewn ymdrech i ryddhau ei fab.
Yn y broses, cafodd y mab ragor o anafiadau cyn cael ei gludo i'r ysbyty lle cadarnhawyd ei fod wedi cael ei drywanu naw gwaith, gan gynnwys clwyf difrifol i'w abdomen.
Yn ddiweddarach, daeth swyddogion o hyd i'r car wedi iddyn nhw dderbyn adroddiad gan aelod o'r cyhoedd a darganfod pyllau o waed tu mewn.
Ar Chwefror 27, arestiodd swyddogion Williams a Brown mewn parc carafanau yn Kidderminster. Wrth iddynt chwilio'r garafán, fe ddaeth yr heddlu o hyd i eitemau gan gynnwys balaclafa, cyllell, a dillad oedd union fel y rhai a wisgodd Williams yn y lluniau cylch cyfyng.
Cafodd y tri eu dedfrydu ddydd Gwener am geisio llofruddio, achosi niwed corfforol difrifol, herwgipio, blacmel, meddu ar arf, a meddu ar eitem lafnog.
Cafodd Tyshane Brown, 30 oed e'i ddedfrydu i 30 mlynedd dan glo, George Miles-Brown, 24 ei i ddedfrydu i 20 mlynedd yn y carchar a Luke Williams, 19 oed ei ddedfrydu i 25 mlynedd.