Disgwyl cymeradwyo adeilad newydd i feithrinfa a gollodd ei tho

meithrinfa cei newydd.jpg

Mae disgwyl i'r galw am adeilad ar gyfer meithrinfa mewn tref yng Ngheredigion gael ei gymeradwyo gan y cyngor. 

Fe gafodd to Cylch Meithrin Cei Newydd ei ddifrodi yn Storm Darragh ym mis Rhagfyr 2024. 

Mewn cais sydd wedi cael ei argymell i'w gymeradwyo yng nghyfarfod pwyllgor rheoli datblygu Cyngor Sir Ceredigion ym mis Hydref, mae'r awdurdod lleol yn ceisio caniatâd at gyfer adeilad un llawr newydd yn yr un parc chwarae.

Mae adroddiad gan swyddog sy'n argymell cymeradwyo'r cais yn dweud: "Y safle o dan ystyriaeth ydy Parc Arthur, Cylch Meithrin Cei Newydd, meithrinfa sydd eisoes yn bodoli ac sydd wedi ei lleoli wrth ymyl Clwb Pêl-droed a Neuadd Goffa Cei Newydd.

"Mae'r strwythur newydd arfaethedig o'r raddfa a dyluniad disgwyliedig ac mae'n gyson â datblygiad blaenorol o natur addysgol yn yr ardal."

Yn dilyn y storm fis Rhagfyr diwethaf, fe gafodd ymgyrch i godi arian ei lansio gan y cynghorydd lleol Brett Stones i helpu gyda'r gwaith atgyweirio. 

Mae dros £8,000 wedi ei gasglu hyd yma. 

"Fe gafodd to Cylch Meithrin Cei Newydd ei ddifrodi yn gyfan gwbl yn sgil y storm ddiweddar, gan adael plant ifanc, eu teuluoedd a'r staff ymrwymedig wedi eu llorio," meddai Mr Stones. 

"Byddai unrhyw gyfraniad, bach neu fawr, yn gwneud gwahaniaeth sylweddol wrth ein helpu i gefnogi'r plant a'r staff wrth i ni weithio i ailadeiladu yn ystod y cyfnod heriol yma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.