Cyngor Môn i newid 22 o ffyrdd o 20mya yn ôl i 30mya
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cytuno i newid y terfyn cyflymder ar 22 o ffyrdd, o 20 milltir yr awr yn ôl i 30 milltir yr awr.
Cafodd gorchmynion traffig i newid terfynau cyflymder ar y ffyrdd eu cymeradwyo gan bwyllgor cynllunio a gorchmynion ddydd Mercher.
Yn dilyn cyfnod ymgynghori, sefydlodd y cyngor grŵp llywio trawsbleidiol i adolygu adborth y cyhoedd, yn ymwneud â dros 47 o ffyrdd ar draws yr ynys.
O’r rhain, roedd 25 ffordd yn cyrraedd y meini prawf a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, ac fe fyddent yn cael eu heithrio o’r terfyn cyflymder 20mya.
Cafodd ymgais i newid ffordd yr A4080 i Rhosneigr o 20mya i 40mya ei wrthod, ar ôl gwrthwynebiad gan rhai cynghorwyr a thrigolion.
Dywedodd y Cynghorydd Douglas Fowlie nad oedd ef na’i gyd gynghorwyr lleol yn gweld “unrhyw fudd” o symud y terfyn cyflymder o 20mya i 40mya yn Rhosneigr, “ond nifer o risgiau”.
“Mae’n anodd cyfiawnhau defnyddio adnoddau’r cyngor, byddai’r arian yn well cael ei wario ar atal goryrru yn yr ardaloedd a chynnal y ffyrdd y hytrach na symud y terfyn cyflymder," meddai.
Roedd rhai o’r gwrthwynebiadau yn yr ymgynghoriad wedi cynnwys cynlluniau i wella llwybrau Teithio Actif, gyda chodi terfynau cyflymder yn “niweidiol” i ymdrechion i hybu cerdded a seiclo.
Dywedodd Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff, Huw Percy: “Hoffwn ddiolch i drigolion Ynys Môn am gymryd rhan yn ein hymgynghoriad ar newid cyflymder ffyrdd penodol o 20mya yn ôl i 30mya.
“Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, sefydlodd Cyngor Ynys Môn grŵp llywio trawsbleidiol i adolygu pob cais a ddaeth o adborth y cyhoedd, gan gwmpasu 47 o adrannau ffyrdd ar draws yr ynys.
“O’r rhain, canfuwyd bod 25 yn bodloni’r meini prawf a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ac wedi hynny fe’u cynhwyswyd o fewn saith Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TROs) ar draws yr Ynys.
“Ar Hydref 1, 2025, fe wnaeth pwyllgor cynllunio a gorchmynion y cyngor gymeradwyo 22 o’r 25 cynnig i newid ffyrdd o 20mya i 30mya.”
Dyma'r ffyrdd fydd yn newid o 20mya:
Twrcelyn:
Amlwch A5025.
Bull Bay A5025.
Lon Parys-Ffordd Madyn.
Canolbarth Môn:
Bodffordd A5.
Ffordd Rhosmeirch Coedana.
Stad Diwydiannol Llangefni.
Ffordd hen ysgol Talwrn
Bro'r Llynnoedd, Crigyll & Bro Aberffraw:
Caergeiliog A5.
Llanfachraeth A5025.
Llanfihangel yn Nhowyn RAF Valley.
Bryn Du.
Ffordd Valley A5.
Bodowyr:
Llanddaniel A5.
Llanddaniel Ffingar.
Llanddaniel croesfan.
Cybi:
Bae Trearddur B4545.
Parc Cybi, Caergybi.
Ffordd Fictoria, Caergybi.
Seiriol ac Aethwy:
Llanfairpwll A5025.
Llandegfan Ffordd yr Eglwys.
Llanfaes
Lligwy:
Pentraeth Talwrn B5109.
Pentraeth Biwmares B5109.
Benllech A5025