Cipolwg ar gemau'r Cymru Premier JD

Sgorio
Hwlffordd v Penybont

Roedd hi’n golled annisgwyl i Gaernarfon yn erbyn Met Caerdydd brynhawn Sul wrth i’r myfyrwyr drechu’r Cofis o 3-0, gan sichrau eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref yn y gynghrair ers 12 mis.

Mae’r canlyniad hwnnw’n golygu bod y Seintiau’n aros ar y copa, un pwynt uwchben Pen-y-bont sy’n dynn ar eu sodlau yn yr ail safle.

Roedd hi’n wythnos lewyrchus i Lanelli a gasglodd saith o bwyntiau mewn chwe diwrnod, ac hynny ar ôl colli eu saith gêm agoriadol.

Hwlffordd sydd wedi llithro i waelod y tabl ar ôl colli pum gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers degawd.

Dydd Sadwrn, 4 Hydref 

Cei Connah (6ed) v Llanelli (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:00

Ar ôl colli pob un o’u saith gêm gyntaf yn y gynghrair roedd hi’n syndod mawr gweld Llanelli yn cipio saith pwynt mewn chwe diwrnod yr wythnos diwethaf gan ddringo oddi ar waelod y tabl.

Dechreuodd yr adfywiad gyda gêm ddi-sgôr yn erbyn Bae Colwyn bythefnos yn ôl, cyn i’r Cochion sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ar 23 Medi yn erbyn Llansawel, ac yna ennill eto yn erbyn Hwlffordd ar Barc Stebonheath ar 26 Medi.

O ran Cei Connah, dyw tîm John Disney heb ddisgleirio rhyw lawer eleni gan ennill dim ond un o’u chwe gêm ddiwethaf, ac honno yn erbyn 10-dyn Hwlffordd.

Ond mae’r Nomadiaid wedi ennill eu 10 gornest flaenorol yn erbyn Llanelli, yn cynnwys buddugoliaeth o 2-1 yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru y tymor diwethaf, ac felly bydd Lee John yn gobeithio ysbrydoli ei garfan i guro Cei Connah am y tro cyntaf ers 16 mlynedd.

Record cynghrair diweddar:

Cei Connah: ❌➖✅❌➖

Llanelli: ❌❌➖✅✅

Hwlffordd (12fed) v Y Fflint (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae Hwlffordd wedi disgyn i waelod y domen yn dilyn eu rhediad gwaethaf yn y gynghrair ers degawd gyda’r Adar Gleision yn colli pum gêm gynghrair yn olynol.

Hwlffordd oedd â record amddiffynnol orau’r gynghrair yn 2024/25, ond rydyn ni eisoes wedi gweld sawl enghraifft o ddiffyg trefn a disgyblaeth yn amddiffyn yr Adar Gleision eleni wedi i’r clwb golli canran helaeth o’u chwaraewyr dylanwadol dros yr haf (Lee Jenkins, Luke Tabone, Jacob Owen, Zac Jones)

Er gorffen yn y 3ydd safle y tymor diwethaf, roedd y goliau’n brin i dîm Tony Pennock (cyfartaledd o 1.2 gôl y gêm), ac mae’n stori debyg eleni gan fod Hwlffordd wedi methu a sgorio mewn pump o’u naw gêm gynghrair hyd yn hyn.

Mae’r Fflint wedi codi i’r 8fed safle ar ôl curo Llansawel brynhawn Sadwrn diwethaf diolch i ddwy gôl Harry Owen, wrth i’r capten sgorio yn erbyn tîm Andy Dyer am y chweched tro mewn pedair gêm.

Ond dyw’r Sidanwyr heb ennill dim un o’u pum gêm ddiwethaf oddi cartref yn Nôl y Bont, ers ennill o 3-0 ym mis Tachwedd 2020.

Record cynghrair diweddar: 

Hwlffordd: ❌❌❌❌❌

Y Fflint: ✅❌➖❌✅

Met Caerdydd (10fed) v Y Bala (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30

Ar ôl methu ag ennill dim un o’u naw gêm agoriadol y tymor yma, roedd yna reswm i ddathlu o’r diwedd i Met Caerdydd brynhawn Sul, wrth iddyn nhw guro Caernarfon o 3-0 ar Barc Maesdu.

Honno oedd buddugoliaeth gyntaf y myfyrwyr oddi cartref yn y gynghrair ers ennill 2-1 yn Aberystwyth dros flwyddyn yn ôl.

Er eu safle addawol, mae goliau wedi bod yn brin i’r Bala sydd m’ond wedi rhwydo naw gôl mewn 10 gêm gynghrair.

Mae gan Met Caerdydd record gryf yn erbyn Y Bala gan i dîm Ryan Jenkins golli dim ond un o’r 11 gornest ddiwethaf rhwng y timau (ennill 5, cyfartal 5).

Record cynghrair diweddar: 

Met Caerdydd: ͏❌➖❌❌✅

Y Bala: ➖❌➖✅❌

Y Seintiau Newydd (1af) v Y Barri (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl curo’r Bala ar ddiwedd mis Medi, mae’r Seintiau bellach ar rediad o 10 gêm heb golli, yn cynnwys chwe buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth.

Mae golwr newydd y Seintiau, Nathan Shepperd wedi setlo’n sydyn yn yr uwch gynghrair gan gadw chwe llechen lân mewn 10 gêm gynghrair hyd yma.

Mae’r Barri hefyd wedi amddiffyn yn gadarn yn ddiweddar gan gadw pedair llechen lân yn eu pum gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth. 

Dyw’r Seintiau Newydd heb golli mewn 14 o gemau’n erbyn Y Barri (ennill 11, cyfartal 3), ond di-sgôr oedd hi’n y gêm gyfatebol rhwng y timau yn gynharach y tymor hwn.

Record cynghrair diweddar: 

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅

Y Barri: ❌✅➖✅➖

Bae Colwyn (7fed) v Caernarfon (3ydd) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein)

Wedi dechrau rhagorol i’r tymor mae Caernarfon bellach wedi syrthio i’r trydydd safle ar ôl colli dwy o’u tair gêm ddiwethaf.

Caernarfon yw prif sgorwyr y gynghrair y tymor hwn, ond methodd y Cofis a tharo’r rhwyd yn erbyn Met Caerdydd ddydd Sul, ac hynny am y tro cyntaf ers y gêm ddi-sgôr yn erbyn myfyrwyr Met yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ym mis Mai.

Dim ond y ddau ucha’n y tabl sydd â record amddiffynnol gwell na Bae Colwyn y tymor hwn gyda’r Gwylanod m’ond wedi ildio naw gôl mewn 10 gêm gynghrair ers eu dyrchafiad.

Ond fe wnaeth tîm Michael Wilde ildio deirgwaith yn erbyn Caernarfon yn eu gêm gyntaf y tymor hwn, ac hynny yn ail rownd Cwpan Nathaniel MG (Cfon 3-0 Bae).

Mae Caernarfon wedi ennill pob un o’u tair gornest flaenorol yn erbyn Bae Colwyn gyda thorfeydd iach o dros 900 yn bresennol ar gyfer y dair gêm.

Record cynghrair diweddar:

Bae Colwyn: ͏✅✅➖❌❌

Caernarfon: ͏✅✅❌✅❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.