Pen-y-bont: Arestio dau ddyn ar ôl darganfod bwledi mewn drws tŷ

Maesglas Pen-y-bont ar Ogwr

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar ôl i fwledi gael eu darganfod mewn drws tŷ ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i ddigwyddiad ym Maesglas yn Y Pîl ddydd Llun 22 Medi.

Fe wnaeth person glywed "bang mawr" a darganfod dau dwll yn nrws yr eiddo.

Roedd dwy fwled wedi cael eu darganfod yn yr eiddo ym mhanel gwydr y drws.

Bellach mae dau ddyn 20 a 39 oed wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r ddau ddyn wedi eu harestio ar amheuaeth o fod â dryll yn eu meddiant gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Mae'r dynion o Fryntirion ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn parhau yn y ddalfa, ac yn cael eu cwestiynu gan y llu.

Dywedodd yr heddlu bod swyddogion arfog wedi arestio'r ddau ddyn "er diogelwch ein swyddogion a'r gymuned."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.