Bangor: Rhyddhau gyrrwr fan Tesco dan ymchwiliad wedi marwolaeth dynes
Mae gyrrwr fan Tesco a gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth dynes oedrannus mewn gwrthdrawiad ym Mangor wedi ei ryddhau dan ymchwiliad gan yr heddlu.
Cafodd y gyrrwr 33 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus yn dilyn y gwrthdrawiad ddydd Llun.
Dywedodd Heddlu’r Gogledd ddydd Iau ei fod bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad wrth i swyddogion barhau i ymchwilio i’r digwyddiad.
Cafodd yr heddlu eu galw i Fryn y Garth yn y ddinas toc wedi 12.00 ddydd Llun yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad rhwng cerddwraig a fan Tesco.
Cafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys yr Ambiwlans Awyr, eu galw i'r lleoliad a cafodd y ffordd ei chau ar unwaith.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r ddynes oedrannus yn y fan a'r lle.
Cafodd y crwner a theulu agosaf y ddynes wybod am ei marwolaeth wedi’r digwyddiad.
Dywedodd y Rhingyll 3162 Evans o'r Uned Troseddau Ffyrdd ddydd Llun bod “ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r fenyw yn yr amser anodd hwn.”