Cyn Aelod Seneddol Wrecsam yn ymuno â Reform UK
Mae cyn Aelod Seneddol dros Wrecsam wedi ymuno â Phlaid Reform UK, ddeufis ar ôl gadael y Blaid Geidwadol.
Cyhoeddodd Sarah Atherton, sydd yn gyn Is-ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn yn Llywodraeth y DU, ei bod wedi ymuno gyda phlaid Nigel Farage ddydd Iau.
Fe gollodd ei sedd yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Gorffennaf y llynedd.
Wrth ysgrifennu erthygl yn The Express dywedodd Ms Atherton bod "lluoedd arfog Prydain yn haeddu gwell" na'r hyn y mae Llafur a'r Ceidwadwyr yn ei gynnig.
"Ers ei ffurfio mae Reform, yn ddigywilydd, wedi bod yn wladgarol a wedi'i adeiladu ar werthoedd craidd Prydain yn gyntaf," meddai.
"Dyma'r unig blaid sy'n ymladd i sicrhau bod lleisiau'r bobl yn cael eu clywed a'r unig un o ddifrif ynglŷn ag adfer ein lluoedd arfog.
"Mae polisi amddiffyn Reform yn glir: cynyddu gwariant i ailadeiladu, cryfhau ffiniau, cefnogi cyn-filwyr, ac amddiffyn sofraniaeth.
"Efallai na fyddwch chi bob amser yn cytuno â phob manylyn ond gyda Reform rydych chi'n gwybod ble rydyn chi'n sefyll - ar ochr Prydain, ei phobl, a'i lluoedd arfog."
Mae Sarah Atherton wedi dweud ei bod eisiau sefyll yn Etholiad y Senedd ym mis Mai 2026.
Mae gan Reform UK un aelod yn y Senedd ar hyn o bryd, sef yr Aelod dros ranbarth Dwyrain Cymru, Laura Anne Jones.
Fe adawodd hi'r Ceidwadwyr ym mis Gorffennaf, gan gyhoeddi ei bod yn ymuno gyda Reform UK mewn cynhadledd ar faes y Sioe Fawr.
Ychydig wythnosau cyn hynny fe adawodd Cyn Ysgrifennydd Cymru, David Jones, y Blaid Geidwadol i ymuno â Reform UK.
Roedd Mr Jones yn Ysgrifennydd Cymru dan Lywodraeth Geidwadol David Cameron rhwng 2012 a 2014.