Amheuon y gallai Dan James golli gweddill ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd

Dan James

Mae amheuon y gallai Dan James golli gweddill ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd Cymru o achos anaf.

Cafodd yr asgellwr ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Lloegr a Gwlad Belg ar 9 ac 13 Hydref.

Dywedodd Craig Bellamy bod gan James "broblem gyda'i ffêr" mewn cynhadledd i'r wasg ddechrau'r wythnos.

Ond bellach mae rheolwr Leeds United, Daniel Farke, wedi dweud bod disgwyl i James ddychwelyd o'i anaf mewn tua phedair i chwe wythnos.

Pe bai James methu chwarae am chwe wythnos fe fydd yn colli'r gemau hollbwysig yn erbyn Liechtenstein a Gogledd Macedonia ym mis Tachwedd.

"Dywedodd y doctor ei bod yn debygol y bydd ef allan am bedair i chwe wythnos," meddai Farke.

"Felly mae hynny'n golygu ein bod yn disgwyl iddo ddychwelyd mwy neu lai ar ôl y saib rhyngwladol ym mis Tachwedd."

Nid yw Cymru wedi cyhoeddi pwy fyddai'n cael ei gynnwys yn y garfan yn lle Dan James eto.

Cwpan y Byd

Mae na obaith y gallai tîm Craig Bellamy gymhwyso'n awtomatig ar gyfer Cwpan y Byd 2026, ond bydd angen dibynnu ar dimau eraill yn colli.

Bydd angen i Wlad Belg beidio ennill yn erbyn Cymru ac yn erbyn Gogledd Macedonia, Liechtenstein neu Kazakhstan.

Gogledd Macedonia sydd ar frig y grŵp gydag 11 pwynt, un pwynt uwchben Cymru a Gwlad Belg.

Mae Gwlad Belg yn yr ail safle gyda Chymru yn drydydd ar yr un nifer o bwyntiau, ond gyda gwahaniaeth goliau gwaeth na Gwlad Belg.

Y tîm sydd yn gorffen ar frig y grŵp fydd yn cymhwyso'n awtomatig ar gyfer Cwpan y Byd, tra bod yr ail safle yn sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle ym mis Mawrth.

Hyd yn oed os yw Cymru yn gorffen yn y trydydd safle, fe fyddan nhw'n cymhwyso ar gyfer y gemau ail-gyfle gan eu bod wedi ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd y llynedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.