Teulu o Wynedd yn rhan o ddigwyddiad atal hunanladdiad er cof am eu mab

Teulu o Wynedd yn rhan o ddigwyddiad atal hunanladdiad er cof am eu mab

Rhybudd: Mae'r erthygl ganlynol yn trafod hunanladdiad.

Fe fydd teulu dyn ifanc o Wynedd a fu farw drwy hunanladdiad yn 2021 yn cymryd rhan mewn digwyddiad ddydd Sadwrn i godi ymwybyddiaeth am atal hunanladdiad, union bedair blynedd i'r diwrnod ers ei farwolaeth. 

Bu farw Twm Bryn ar 4 Hydref 2021, yn 21 oed. 

Digwyddiad 'The Baton of Hope' ydy menter atal hunanladdiad fwyaf y DU, a dydd Sadwrn fe fydd yn dod i Wrecsam. 

Fe fydd y daith yn gweld baton aur ac arian sy'n cynrychioli lles meddyliol yn cael ei gario gan deuluoedd pobl sydd wedi marw drwy hunanladdiad, a goroeswyr hunanladdiad.

Un o'r teuluoedd yma fydd teulu Twm Bryn.

"Ymgyrch ydi o er mwyn trio annog i bobl drafod, siarad, codi ymwybyddiaeth ynglŷn â hunanladdiad," meddai mam Twm, Bethan Llwyd Jones, wrth Newyddion S4C.

"Mae o hefyd yn dangos faint mor bwysig ydi cymdeithas, a meddwl amdan y baton yn cael ei roi o un person i’r ‘llall, faint mor bwysig ydi bo’ ni’n rhannu petha, a bod cymdeithas yn gallu siarad am y petha ‘ma a helpu’i gilydd."

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, bu farw 350 o breswylwyr Cymru yn sgil hunanladdiad tybiedig naill ai yng Nghymru neu du allan i'r wlad rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024. 

Dynion oedd 76% o'r marwolaethau hyn, a gogledd Cymru oedd â'r gyfradd uchaf o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig (14.1 fesul 100,000 o'r boblogaeth) yn ôl y ffigyrau. 

Image
Twm Bryn
Bu farw Twm Bryn ym mis Hydref 2021.

Ychwanegodd Bethan: "Dwi’n meddwl bod isio annog bod y teimlad o fod yn perthyn yn bwysig a bod ni fel cymdeithas i fod i edrych ar ôl naill a’r llall, a peidio bod yn feirniadol o neb, ag i fyw i edrych ar  ôl y naill a’r llall."

Er y bydd y digwyddiad yn un anodd i'r teulu, mae Bethan yn teimlo fod bod yn rhan ohono yn hollbwysig.

"Dwi’n teimlo bod o‘n ofnadwy o bwysig bo’ ni yn rhygnu ‘mlaen, ac yn rhannu ein stori ac yn codi’r ymwybyddiaeth er mwyn dangos bod Twm yn bodoli, a bo’ fi ddim isio gweld teuluoedd eraill yn mynd drwy’r un fath," meddai.

"‘Dan ni yn bodoli, ella na dyna ydi’r term cywir i ddefnyddio. Wrth gwrs, ‘dan ni gyd yn methu Twm, ma’ bob diwrnod, ma’ Twm yn ein bywydau ni dal i fod.

"Dwi yn trio arbed y gŵr a’r plant, a wedyn ma’ nhw hefyd yn trio arbed ni, felly ma’ jyst yn dangos dydi faint mor anodd ydi siarad."

Image
Twm Bryn
Bydd y Baton of Hope yn cael ei gynnal yn Wrecsam union bedair blynedd ers i Twm farw. 

Fe gafodd y digwyddiad ei gynnal am y tro cyntaf yn 2023, ac roedd Bethan yn ymwybodol ohono ar yr adeg hynny. 

"Nath o ddal fy sylw i achos oeddan ninnau hefyd newydd golli Twm, ag o'n i wedi holi ynglŷn â sut i gymryd rhan, ond oedd o lawr yng Nghaerdydd, o'dd hi'n adag 'falle lle doeddan ni ddim yn teimlo yr un mor gyfforddus i neud wbath yn gyhoeddus," meddai.

"Trwy hap a damwain welis i wbath bod y Baton yn dod i Wrecsam, ac wrth gwrs, dyma fi'n meddwl, 'dan ni yng ngogledd Cymru, ma' rhaid i fi fod yn rhan o hyn.'"

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal yn Wrecsam ddydd Sadwrn, 4 Hydref, sef union bedair blynedd ers marwolaeth Twm.

Er yn anodd, dywedodd Bethan nad oes un diwrnod yn haws na'r llall. 

"Ma’ pob un diwrnod yn anodd, dydy’r dyddiad ddim yn golygu dim byd mwy am y rheswm ‘dan ni’n colli Twm yn ddyddiol," meddai. 

"Ond eto ar ôl deud hynny, pan welis i’r dyddiad, y 4ydd, o’n i’n meddwl wrth fi fy hun ‘Reit, ma’ rhaid i fi neud hyn, ma’ hyn yn fwy’ ag o’n i‘n meddwl ma’ Twm ‘di neud yn siwr bo’ fi’n neud wbath ar y diwrnod yma."

Image
Twm Bryn
'The Baton of Hope' ydy menter atal hunanladdiad fwyaf y DU.

Fe fydd 70 o bobl yn cario'r Baton o gwmpas ardal Wrecsam ddydd Sadwrn, gan ddechrau yng Nghaffi Wylfa yn Y Waun, cyn gorffen ym Mhrifysgol Wrecsam am 17:30.  

"Yn anffodus, 'dan ni rwan yn rhan o gymdeithas sydd yn eang ofnadwy o bobl sydd wedi colli perthynas i hunanladdiad, a ma'n bwysig bo' ni yn rhan ohona fo a rhan o rw'bath lle 'dan ni'n gw'bod bod pawb yn dalld yn union sut 'dan ni'n teimlo," ychwanegodd Bethan.

"Annog y bobl sydd o dan risg bod 'na obaith."

Clywodd cwest i farwolaeth Twm ei fod wedi cael ei gyfeirio at wasanaeth cwnsela cyn iddo farw, ond nid oedd wedi cael mynediad ato. 

Ni dderbyniodd ei asesiad iechyd meddwl o fewn targed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o 28 diwrnod chwaith, gan ddisgwyl 40 diwrnod. 

'Ar gael heddiw'

Mae Bethan yn teimlo ei fod yn hanfodol fod y person sydd yn wynebu risg yn derbyn gofal ar unwaith.

"Oeddan ni'n gw'bod bod Twm yn stryglo fel teulu, ag oeddan ni yn trio annog o i fynd i weld rhywun, ag wrth gwrs, oedd o'n beth mawr idda fo dderbyn ei fod o am fynd i weld cwnselydd," meddai.

"Erbyn idda fo sylweddoli bod o angen yr help, mi a'th o i weld ei ddoctor, nath hwnnw ei gyfeirio fo i'r gwasanaeth iechyd meddwl.

Ychwanegodd: "Fuodd o'n disgwyl wedyn am apwyntiad, mi ga'th o'i weld, a doedd beth ddo'th allan ohona fo ddim yn bositif, ag o'dd hynny dim ond cryn dair wythnos cyn i ni golli Twm.

"Ma' angen i'r gwasanaethau 'ma fod yma ar gael heddiw, y diwrnod ma'r unigolyn yn agor fyny, dim gorfod disgwyl. Ddylsa bod 'na gyswllt yn cael ei wneud efo'r unigolyn jyst er mwyn deud 'ia, gwranda wyt ti ar y rhestr aros, dyma sydd am ddigwydd...'"

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am ymateb.

Gwasanaeth a fydd yn bresennol yn y digwyddiad ddydd Sadwrn hefyd ydy Enfys Alice sydd yn cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i unigolion sydd wedi colli perthynas drwy hunanladdiad yng ngogledd Cymru.

Fe gafodd y gwasanaeth ei sefydlu gan Nina Roberts o Fôn, wedi iddi golli ei merch, Alice, yn 2018. 

Image
Nina ac Alice
Fe wnaeth Enfys Alice gael ei sefydlu wedi i Nina golli ei merch drwy hunanladdiad yn 2018.

"O'n i'n cydnabod bod angen gwasanaeth i gefnogi pobl oedd wedi eu heffeithio neu wedi golli rhywun i hunanladdiad oherwydd doedd 'na ddim unrhyw beth ar gael," meddai Nina wrth Newyddion S4C.

"Mae o'n hanfodol, pan mae rhywun wedi cael eu heffeithio gan hunanladdiad, mae eu byd nhw yn newid, ond mae cael gwasanaeth fel Enfys Alice yn golygu fod modd cael rhywun ochr yn ochr â chi drwy'r daith, dydych chi ddim ar ben eich hun. 

Fe wnaeth Nina sefydlu'r gwasanaeth am ei bod yn teimlo nad oedd cefnogaeth o'r fath yn bodoli yng ngogledd Cymru. 

"'Dan ni angen cydnabod yr effaith y mae hunanladdiad yn ei gael ar deuluoedd a ffrindiau - fe fydd o'n effeithio ar bob agwedd o'u bywyd nhw," meddai.

"Mae yna gymunedau gwledig a chlos yn y gogledd, mae yna gymuned gyfan yng Nghymru - a dydy pobl ddim yn gwybod ei bod yn bodoli tan eu bod nhw'n rhan ohoni."

Ychwanegodd Nina: "Dwi'n meddwl fod yna lawer o stigma am hyn, ac mae'n anodd iawn i ofyn am y cymorth yma, ac mae'n anodd i bobl i siarad gyda rhywun sydd wedi colli rhywun oherwydd maen nhw'n ofn dweud y peth anghywir.

"Mae yna dawelwch...tawelwch yn ymwneud â hunanladdiad.

"Mae'n dda gweld presenoldeb y Baton of Hope yng ngogledd Cymru oherwydd mae 'na deuluoedd ar draws y gogledd sy'n rhan o'r gymuned yma sy'n galaru."

Image
Nina ac Alice
Alice a Nina

Mae gwasanaeth Enfys Alice yn cael ei rheoli gan Ganolfan Felin Fach ym Mwllheli. 

Ychwanegodd Meinir Evans, Prif Swyddog Canolfan Felin Fach a Rheolwr Prosiect Gwasanaeth Enfys Alice wrth Newyddion S4C: "Mae o'n hanfodol o bwysig achos ma' pawb sydd 'di colli rhywun i hunanladdiad angen y cyfle i gael y gefnogaeth yn lleol.

Ychwanegodd Meinir fod darparu'r gwasanaeth drwy'r Gymraeg hefyd yn "hanfodol bwysig".

"Be' bynnag ydy eich mamiaith chi bo' chi'n cael cefnogaeth, yn enwedig pan 'dach chi'n siarad am alar, ma' cael mynegi eich hun yn eich hiaith gyntaf yn hanfodol, a felly wrth gwrs, 'dan ni'n cynnig y ddarpariaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg, a ma' genno ni adnoddau i helpu i gynnig cefnogaeth mewn unrhyw iaith."

Mae'n anrhydedd i'r gwasanaeth fod yn bresennol yn Wrecsam ar gyfer y Baton of Hope ddydd Sadwrn yn ôl Meinir. 

"Mae'n fraint mawr i ni yng Nghymru bod y Baton yn dod yma, a mae'n fraint mawr i ni fel gwasanaeth bo' ni wedi cael gwahoddiad i gefnogi pobl sydd am ddod allan i weld y Baton a sydd wedi cael eu heffeithio.

"Fyddwn ni ymhob un stop ar hyd y daith."

Image
Twm
Mae'r teulu yn gobeithio cadw enw Twm yn fyw.

Mae Bethan yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn Wrecsam ddydd Sadwrn yn gyfle i godi ymwybyddiaeth am atal hunanladdiad.

"Dwi'n gobeithio fydd 'na lot fwy o siarad amdana fo eto, gobeithio fydd 'na fwy o ymwybyddiaeth amdana fo, ag yn union fel enw'r Baton of Hope, bod 'na obaith," meddai.

"Dangos i bobl bod 'na obaith ag i chwilio amdana fo."

Os ydych chi wedi cael eich heffeithio gan gynnwys yr erthygl, mae cymorth ar gael yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.