Menyw ifanc o Abertawe ddim am adael MS ei hatal rhag teithio'r byd

Tesni Davies gyda ei chariad

“Fi ddim mo'yn hwn i gael unrhyw effaith ar fywyd fi o ddydd i ddydd, fi mo'yn cario ‘mlaen i ‘neud y stwff fi gallu.”

Dyma eiriau menyw ifanc o Abertawe sydd wedi penderfynu teithio’r byd gyda’i chariad, hynny wedi iddi gael diagnosis o sglerosis ymledol (MS) y llynedd. 

Fe gafodd Tesni Davies, 24 oed o dref Gorseinon, dro ar fyd flwyddyn yn ôl pan gafodd hi wybod bod ganddi’r clefyd niwrolegol sy’n effeithio ar yr ymennydd a’r asgwrn cefn. 

Mae symptomau’r cyflwr yn amrywio o berson i berson ond fe allai unigolion brofi heriau gyda symud a theimlo. 

A hithau’n “caru” ymarfer corff, roedd y posibilrwydd o golli ei ffordd o fyw, yn ergyd enfawr iddi. 

Ond roedd hi'n benderfynol na fyddai’r cyflwr yn ei hatal rhag byw bywyd, ac mae bellach wedi penderfynu treulio’r flwyddyn nesaf yn teithio i ben arall y byd. 

Ddiwedd mis Tachwedd fe fydd Tesni a’i chariad, William Pritchard, yn cychwyn eu taith yn Ne-ddwyrain Asia, gyda chynlluniau pellach i ymweld â De Corea, Japan, Seland Newydd ac Awstralia hefyd. 

Mae’n dweud ei bod yn benderfynol na fydd y cyflwr “yn mynd i fod yn hindrance i bywyd fi o gwbl,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.  

Image
Tesni a'i chariad
Tesni a'i chariad William

'Ddim yn bryderus'

Mae 6,111 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chyflwr MS – sef 1 o bob 500, yn ôl elusen MS Society Cymru. 

Ac wrthi iddi baratoi i ddechrau ar ei hantur, mae Tesni yn dweud nad oes ganddi unrhyw bryderon am deithio gyda’r cyflwr. 

“Yr unig peth fi’n pryderu am yw oherwydd bod fi’n immune suppressant; y bwyd a diodydd a stwff. 

“Os fi’n sâl byddai’n mwy sâl achos bod fy immune system yn wannach.” 

Image
Tesni
Mae Tesni wedi cyflawni sawl her ffitrwydd ers ei diagnosis

Ond mae’n falch o allu bwrw ‘mlaen gyda’i chynlluniau o’r diwedd, a hithau wedi bod yn bwriadu dechrau teithio’n wreiddiol ym mis Chwefror 2025.

Cafodd ei tharo gan symptomau ei chyflwr am y tro cyntaf ym mis Ebrill y llynedd, pan gafodd hi broblemau gyda’i golwg, ac eto ym mis Tachwedd pan gafodd ei diagnosis.

Ers mis Rhagfyr mae wedi bod yn derbyn brechiadau i fynd i’r afael â symptomau’r cyflwr. Dyw hi ddim wedi dioddef unrhyw symptomau pellach ers hynny. 

“Fues i cael y relapse [ym mis Tachwedd] a wedyn o’n i fel, ‘Na dwi ddim yn gallu mynd, dwi ddim yn ddigon barod i fynd mewn tri mis.’

“O’n i jyst yn pryderu gormod wedyn so fi ‘di postponio fe tan nawr a fi’n teimlo mwy fel fi ‘di cael amser i meddwl amdano fe, dwi 'di cael amser i gynllunio popeth.”

'Gwneud popeth'

Er mwyn iddi allu mynd i deithio fe fydd Tesni bellach yn derbyn brechiad bob chwe mis, yn hytrach na dau frechiad bob pedair wythnos. 

Mae hynny’n golygu y bydd yn rhaid iddi ddychwelyd adref am gyfnod cyn ail-gychwyn y daith. 

Yn ystod y cyfnod hwnnw fe fydd hi’n mynd i gefnogi ei ffrind Lois Cant, sydd yn rhedeg Marathon Llundain, er mwyn codi arian tuag at elusen MS Society yn dilyn profiadau Tesni.  

Image
Tesni a Lois
Lois Cant a Tesni Davies

Mae Tesni’n rhannu hoffter ei ffrind am ymarfer corff a dyw hi ddim wedi caniatáu i'w chyflwr ei rhwystro rhag mynd i’r gampfa. 

“Pan ‘odd fi ‘di cael y relapse o’n i wedi meddwl fi ddim yn gallu mynd i’r gym byth eto, dyna beth o’n i’n pryderu am fwyaf,” meddai. 

“Ond unwaith cychwynnais driniaeth, fi ‘di ‘neud Hyrox Simulation, y Full Send yn Llanelli, fi ‘di rhedeg y 10k lawr yn Abertawe a dwi wedi ymuno â touch rugby team hefyd. 

“So dwi’n ‘neud popeth nawr.”

Image
Tesni

'Ysbrydoliaeth'

Mae Shelley Elgin, Cyfarwyddwr Gwlad ar gyfer MS Society Cymru yn dweud bod brwdfrydedd Tesni yn “ysbrydoledig.”

“Fe allai MS fod yn llethol, yn flinedig ac yn anodd i’w rhagweld.” 

Dywedodd bod Tesni’n profi gyda’r “gefnogaeth gywir” a dull o reoli’r cyflwr, y gall pobl barhau i “fyw bywyd i'r eithaf.” 

Image
Tesni

Mae Tesni yn awyddus i chwalu’r stigma sydd ynghlwm ag MS. 

“Mae mam-gu yn cael e, felly fersiwn fi o MS oedd mam-gu,” esboniodd.  

“Dyw hi ddim mewn iechyd da, mae ddim gallu cerdded na unrhyw beth fel ‘na. 

“Felly o’n i’n meddwl fi mynd i bod fel ‘na… fi ddim mynd i gallu mynd i’r gym rhagor, fi mynd i bod mewn wheelchair am gweddill bywyd fi. 

“Ond ‘odd mam-gu ‘di cael e blynyddoedd a blynyddoedd maith yn ôl a pethau newydd mas ‘na nawr.” 

Dywedodd Shelley Elgin: “MS yw’r cyflwr niwrolegol mwyaf cyffredin ym mhobl ifanc. 

“Rydyn ni’n wrth ein bodd yn gweld Tesni yn cwblhau heriau ffitrwydd ac yn cynllunio antur mor gyffrous.

“Does dim amheuaeth y bydd ei neges o bositifrwydd a gwydnwch yn ysbrydoli eraill ar hyd a lled y gymuned MS yng Nghymru.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.