Merch saith oed o Bontypridd yn dringo i gopa Pen y Fan i godi arian i blant yn Gaza

Merch saith oed o Bontypridd yn dringo i gopa Pen y Fan i godi arian i blant yn Gaza

Mae merch ifanc o Bontypridd wedi codi £760 i blant Gaza drwy ddringo copa mynydd uchaf de Cymru, Pen y Fan. 

Ers clywed am ddioddefaint plant Gaza ynghanol y rhyfel yno, roedd Gwenno, sy’n saith oed ac yn byw ym Mhontypridd, eisiau helpu, meddai.

Dewisodd Gwenno, sy'n saith oed, ddringo'r mynydd er mwyn codi arian i Gronfa Argyfwng Achub y Plant.

Image
Gwenno a'i fam Rachel ar Pen y Fan

Gan herio’r elfennau ar ddiwrnod gwlyb a gwyntog, roedd Gwenno yn benderfynol o gyrraedd ei nod a choncro’r copa 2,907 troedfedd a chafodd gefnogaeth bob cam o’r ffordd gan ei theulu. 

Dywedodd Gwenno: “Roeddwn i’n gyffrous ond oherwydd ei bod hi’n bwrw glaw ac mor wyntog roedd hi’n anodd iawn. Roedd fy nwylo mor oer nes eu bod nhw’n teimlo fel eu bod nhw’n mynd i ffrwydro! 

"Ond roedd fy Mam a Dad a fy mrawd yn fy helpu, ac roedd gennym ni losin yn y rycsacs i’n cadw ni i fynd. Roeddwn i’n falch o gael mynd yn ôl i’r car i gynhesu a chawson ni siocled poeth o’r fan ar waelod y mynydd, a chefais i falws melys a hufen hefyd!

“Dywedodd fy athrawes wrtha i am y plant yn Gaza a bod ganddyn nhw ddim bwyd, na dŵr glân na lle i gysgu yn y nos os yw hi’n bwrw glaw. Roeddwn i eisiau helpu ac iddyn nhw wybod bod plant yng Nghymru yn meddwl amdanyn nhw ac rydw i mor hapus fy mod i wedi codi cymaint o arian.”

Image
Gwenno a'i frawd Iolo

Dywedodd mam Gwenno, Rachel, wrth Newyddion S4C: "O ni'n rili drist mewn ffordd achos, yn gwybod bod nhw wedi colli plentyndod, ac yn gweld bod hi'n sylwi ar hwnna. 

"Ond mae hefyd yn rhywbeth rydw i'n rili, rili falch ohoni hi - mae hi 'di gweithio mor galed ac mae calon mor fawr gyda hi, ni jyst yn rili, rili falch ohoni hi fel teulu."

Dewisodd Gwenno yr elusen Achub y Plant sydd wedi bod yn darparu bwyd, dŵr a chefnogaeth i blant Gaza.

Ychwanegodd Rachel: "Mae eu gweledigaeth yn glir: creu byd lle mae pob plentyn yn ffynnu, yn cael ei glywed a'i werthfawrogi, a chreu gobaith am ddyfodol mwy cyfiawn, cyfartal a chynaliadwy." 

Image
Rachel, Gwenno ac Eurgain yn sefyll o dan y bandstand

Dywedodd Eurgain Haf, Uwch Swyddog y Cyfryngau Achub y Plant (Cymru): "Mae Achub y Plant wedi bod yn gweithio yn Gaza ers degawdau, yn rhedeg canolfannau gofal iechyd sylfaenol ac yn darparu gwasanaethau hanfodol i blant, mamau a theuluoedd, gan gynnwys sgrinio a thriniaeth ar gyfer diffyg maeth."

Mae timau Achub y Plant yn darparu dŵr, yn rhedeg mannau sy'n gyfeillgar i blant ac ardaloedd mam a babanod lle gall menywod beichiog a menywod sy'n bwydo o’r fron dderbyn cefnogaeth, meddai.

Mae'r elusen hefyd yn sefydlu canolfannau dysgu dros dro i helpu plant i barhau â'u haddysg.

"Mae'n codi calon yndydi, pan mae plant fel Gwenno eisiau helpu plant eraill, yn enwedig plant sydd wedi dioddef pethau erchyll yn Gaza," meddai Eurgain Haf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.