Caerffili: Cwpl oedrannus wedi marw wedi ffrwydrad wrth geisio newid silindr nwy

Marlene a William Mumford

Bu farw cwpl oedrannus wedi ffrwydrad a thân yn eu gardd a'u cartref yng Nghaerffili ar ôl ceisio ail-lenwi gwresogydd nwy.

Bu farw Marlene Mumford, 84, a William Mumford, 90, ar 12 Rhagfyr y llynedd.

Fe glywodd cwest i’w marwolaethau yn Llys Crwner Gwent ddydd Mercher fod y tân yn debygol o fod wedi cynnau wrth i Mr Mumford gysylltu silindr nwy newydd â gwresogydd roedden nhw’n ei ddefnyddio’n aml.

Dywedodd y crwner cynorthwyol Sarah Le Fevre fod Mr Mumford, yn ôl pob tebyg, wedi ceisio cario’r silindr allan o’r cartref er mwyn cael y tân allan o’r tŷ. 

Ond dim ond achosi i’r fflamau ledaenu wnaeth hynny.

Fe wnaeth cwsmeriaid yn nhafarn y Tylers Arms gerllaw alw’r gwasanaeth tân ar ôl gweld fflamau a chlywed ffrwydrad yn y cartref tua 17.00. 

Roedd Mr a Mrs Mumford yn “adnabyddus ac yn boblogaidd” ymhlith cwsmeriaid rheolaidd y dafarn.

Ar ôl cyrraedd, nid oedd y gwasanaethau brys yn gallu mynd i mewn i’r tŷ i ddechrau oherwydd maint y difrod a achoswyd gan y tân. 

Dywedodd diffoddwyr tân eu bod wedi gweld mwg du, trwchus yn “llifo allan” o’r adeilad.

Bu farw Mr a Mrs Mumford yn y fan a’r lle.

Dywedodd y crwner: “Fe wnaeth y tân hwn gynnau yn y parlwr, yr ystafell yng nghefn y tŷ, yn ôl pob tebyg wrth gysylltu’r silindr newydd â’r gwresogydd cludadwy.

“Mae’n bosib bod William wedi sylweddoli bod y tân wedi cynnau, a’i fod yn methu cau’r silindr na rheoli’r tân.

“ Felly roedd yn meddwl, yn gwbl ddealladwy, mai’r peth gorau i’w wneud oedd ceisio cael y tân allan o’r tŷ.”

Ychwanegodd: “Fe ddechreuodd y tân ar ddamwain o ganlyniad i nam mecanyddol neu nam ar y cysylltiad rhwng gwresogydd nwy cludadwy a photel nwy, gan achosi i nwy ollwng heb reolaeth.”

Dywedodd y crwner ei bod yn debygol bod Mr Mumford wedi lledaenu’r tân drwy ystafelloedd eraill y tŷ “yn gwbl anfwriadol” wrth geisio cario y silindr allan.

Daeth y crwner i’r casgliad mai marwolaethau damweiniol oedd eu marwolaethau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.