Ymchwiliad llofruddiaeth: Corff dynes wedi’i ganfod mewn fan oedd ar dân
Mae’r heddlu wedi cadarnhau mai corff dynes gafodd ei ganfod mewn fan oedd ar dân yn Sir Ddinbych nos Sul, wrth i'w hymchwiliad i lofruddiaeth bosib barhau.
Mae’r swyddogion sy’n ymchwilio i’r digwyddiad ar Lôn Gas Works, Prestatyn, yn parhau i holi dyn 38 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.
Fe gafodd yr heddlu ganiatâd nos Fawrth i’w gadw yn y ddalfa am gyfnod hirach.
Cafodd archwiliad post-mortem gan y Swyddfa Gartref ei gynnal ddydd Mawrth ar y corff a gafodd ei ganfod yn y fan, gan arwain at y cadarnhâd bod y dioddefwr yn fenyw ac yn oedolyn.
Nid yw’r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ac mae’r heddlu yn gofyn i bobl beidio â dyfalu ar y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â phwy yw hi.
Mae’r crwner wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf, medden nhw.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Zoie Dunkerley: “Rwy’n deall y bydd y digwyddiad hwn wedi achosi pryder yn y gymuned leol, a bydd ein swyddogion yn parhau i fod yn weladwy yn yr ardal os bydd angen i unrhyw un siarad â ni.
“Hoffwn ddiolch i’r aelodau o’r cyhoedd sydd eisoes wedi cysylltu â ni.
“Ond os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai helpu ein hymchwiliad, ac nad ydych eisoes wedi siarad â ni, cysylltwch drwy ein gwasanaeth sgwrsio byw ar y we neu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 26000816112.”