Sir Gâr: Dyn wedi marw mewn digwyddiad ar safle ailgylchu

Ailgylchu Rhydaman

Mae dyn yn ei 60au wedi marw mewn digwyddiad ar safle ailgylchu yn Sir Gâr.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw wedi cael eu galw i safle ailgylchu metal ar Ffordd Shands yn Rhydaman am 07:50 fore Mawrth.

Roedd y llu wedi derbyn adroddiadau bod dyn wedi ei anafu.

Bu farw'r gŵr yn y fan a'r lle. Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, meddai'r llu.

Ychwanegodd yr heddlu fod y crwner a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am y farwolaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.