Dyn yn y llys ar gyhuddiad o gynllwyn terfysgol yn erbyn Nigel Farage

Westminster Magistrates Court

Mae dyn sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio’r gwleidydd Ann Widdecombe wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o gynllwyn terfysgol yn erbyn arweinydd Reform UK, Nigel Farage.

Mae Joshua Kerry, 28, wedi’i gyhuddo o un drosedd o baratoi gweithredoedd terfysgol. 

Mae’r cyhuddiad yn ymwneud â gweithgarwch honedig rhwng 31 Mai 2024 ac 8 Gorffennaf 2026, meddai yr uned Plismona Gwrthderfysgaeth (CTP) ddydd Gwener.

Yn ôl dogfennau’r llys, mae wedi’i gyhuddo o ymchwilio i nifer o bobl amlwg ac unigolion eraill, gan gynnwys cyfeiriad cartref Nigel Farage.

Yr honiad yw ei fod wedi teithio i gartref Mr Farage ar 20 Ebrill y llynedd. Daeth partner Mr Farage, Laure Ferrari, adref i ganfod difrod i’r drws a photel o hylif tanio yn y porth.

Roedd Kerry yn gwisgo tracwisg lwyd wrth ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher. Siaradodd i gadarnhau ei enw yn unig.

Bu farw llefarydd Reform UK a’r cyn-weinidog Ceidwadol Ann Widdecombe, 78, ar 8 Gorffennaf ar ôl cael ei tharo ar ei phen â morthwyl 21 o weithiau yn ei chartref yn Haytor ar Dartmoor, Dyfnaint, yn ôl tystiolaeth mewn gwrandawiad llys blaenorol.

Mae Kerry, o Byrley Road, Rotherham, De Sir Efrog, hefyd wedi’i gyhuddo o’i llofruddio.

Ym mis Awst, fe wnaeth yr heddlu gwrthderfysgaeth ailagor ymchwiliad a oedd wedi para blwyddyn i ymosodiad honedig ar gartref Mr Farage yn ne Llundain.

Dywedodd yr Heddlu Metropolitan a CTP Llundain eu bod wedi ymchwilio i’r digwyddiad fel “ymgais i fyrglera (burglary)”. 

Ni chafodd neb ei arestio cyn i’r achos gael ei gau.

Bydd Kerry yn ymddangos nesaf yn yr Old Bailey ddydd Gwener.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.