'Pryderon' am ddyfodol rhaglenni Cymraeg ITV os oes cytundeb gyda Sky
Fe fyddai yna "bryderon" am ddyfodol rhaglenni Cymraeg sydd yn cael eu cynhyrchu gan ITV pe bai Sky yn prynu eu hadran cyfryngau ac adloniant, yn ôl arbenigwr.
Dywedodd ITV eu bod mewn "trafodaethau cynnar" i werthu eu busnes darlledu i Sky am £1.6 biliwn.
Byddai hynny'n gweld rhaglenni ar sianeli ITV a gwasanaeth ffrydio ITV X yn cael eu gwerthu i Sky, sydd yn berchen i gwmni Comcast yn America.
Mae ITV yn cynhyrchu rhaglenni i sianel S4C, gan gynnwys y rhaglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar a rhaglen wleidyddiaeth Y Byd yn Ei Le.
Dywedodd yr Athro Ffilm a Chyfryngau Jamie Medhurst y byddai yn "newid yn natur darlledu yng Nghymru" pe bai cytundeb o'r fath hon yn digwydd.
“Mae’r elfen Gymraeg a Chymreig yn y pictiwr mawr yn rhan mor fach bron, bydde ddim yn cael ei effeithio," meddai wrth Newyddion S4C.
“Ond ar y llaw arall, pwy a ŵyr os oes cwmni arall hefo delfrydau gwahanol yn cymryd drosodd gyda bwriadau gwahanol, gwerthoedd gwahanol.
“Mae’n mynd i newid natur darlledu yng Nghymru, mae’r elfen diwylliannol na’n bwysig o ran beth mae ITV yn gallu cynnig fel darlledwr cyhoeddus.
“Y cwestiwn hefyd yw, lle fydd Cymru yn ffitio mewn i’r pictiwr ehaganach, byd eang yma fydd gan Sky fel cwmni? Mae na lot o gwestiynau a lot o bryder, fyswn i’n feddwl, o fewn ITV.
“Mae angen plwraliaeth, ac mae angen sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed a’i bod yn weladwy ar blatfformau. Mae colli yr amrywiaeth lleisiau yna yn rhywbeth i boeni amdano fo."
Dywedodd ITV "nad oes unrhyw sicrwydd am delerau unrhyw gytundeb posib, neu fod y gwerthiant yn mynd i ddigwydd".
"Bydd unrhyw gyhoeddiad pellach yn cael ei wneud maes o law os yw'n briodol," medden nhw.
Fe ddywedodd ITV Cymru na fyddan nhw'n gwneud unrhyw ddatganiad ar wahân.
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Sky am ymateb.
'Ansefydlog'
Mae adroddiad diweddar gan Ofcom wedi darganfod mai YouTube yw'r ail wasanaeth ffrydio mwyaf yn y DU tu ôl i'r BBC.
Wrth i ddarlledwyr symud yn fwy at ddefnyddio platfformau ffrydio yn ogystal â darlledu llinol, mae cynhyrchwyr bellach yn gorfod meddwl "mwy am ddigidol."
Mae cyfarwyddwr creadigol cwmni Chwarel TV, Sioned Wyn yn dweud bod teledu llinol yn "farchnad ansefydlog" a bod cynhyrchwyr yn dechrau troi at wasanaethau ffrydio.
“Mae’r byd teledu ar i lawr, so dwi ddim yn synnu bod nhw’n [ITV] trio gwerthu," meddai wrth Newyddion S4C.
“Ond dwi’m yn meddwl neith o ddigwydd, mae ‘na ffordd i fynd cyn i’r deal gael ei gwblhau.
“Dwi’m yn gwybod pa mor dda mae ITV X yn neud, ond mae teledu llinol yn farchnad ansefydlog ofnadwy oherwydd be sy’n digwydd online.
“Dwi angen meddwl mwy am digital, YouTube, TikTok, Instagram ar gyfer fy nghynnwys. Mae lot yn gwneud rhaglenni long form ar YouTube y dyddiau yma.”
'Dioddef'
Mae ITV yn rhagweld y byddai ei refeniw hysbysebu 9% yn is yn ystod tri mis olaf 2025, gan ddweud bod hysbysebwyr yn wyliadwrus cyn y codiadau treth disgwyliedig yng Nghyllideb Llywodraeth y DU.
Dywedodd y darlledwr hefyd y byddai'n gwneud arbedion pellach o £35m, a fyddai'n arwain at ohirio rhai rhaglenni tan y flwyddyn nesaf.
Mae'r Athro Jamie Medhurst yn credu bod hyn o ganlyniad i gystadleuaeth am arian hysbysebu, ac y gallai gael effaith ar Gymru.
“Mae’r cystadleuaeth yma am arian hysbysebu yn ofnadwy i ddweud y gwir. Mae cystadleuaeth gan Netflix, Disney ac Amazon ac yn y blaen, yn golygu bod ITV wedi bod yn diodde'," meddai.
“Dim rhywbeth tymor byr yw hwn, mae wedi bod yn digwydd ers nifer o flynyddoedd.
“Os ewch chi nôl yng Nghymru er enghraift, mae gen ti gwmniau fel TWW a Harlech TV, HTV, mae’r brands yna wedi diflannu’n llwyr, wedi’u llyncu gan ITV.
“Nawr ydi ITV just yn mynd i ddod yn rhan o becyn Sky er mwyn bodloni rhanddeiliaid Sky?"