Dau wedi eu lladd a dyn wedi ei saethu'n farw ger synagog ym Manceinion

02/10/2025

Dau wedi eu lladd a dyn wedi ei saethu'n farw ger synagog ym Manceinion

Mae dau o bobl wedi eu lladd ac mae dyn wedi ei saethu'n fawr gan yr heddlu ar ôl ymosodiad y tu allan i synagog ym Manceinion ddydd Iau.

Dywedodd Heddlu Manceinion eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad yn synagog Heaton Park ar Ffordd Middleton, ac fe gafodd y dyn sy'n cael ei amau o droseddu ei saethu yn farw gan heddlu arfog yn fuan ar ôl yr ymosodiad.

Roedd y dyn wedi gyrru car i ganol pobl a defnyddio cyllell yn yr ymosodiad hefyd.

Mae dau aelod o'r gymuned Iddewig yn y ddinas wedi eu lladd meddai Prif Gwnstabl y llu, Syr Stephen Watson.

"Ar hyn o bryd rydym yn gwybod bod car wedi cael ei yrru'n uniongyrchol at aelodau'r cyhoedd," meddai mewn cynhadledd i'r wasg.

Dywedodd fod yr ymosodwr wedi ei saethu saith munud wedi'r alwad gyntaf i'r gwasanaethau brys am yr hyn oedd yn digwydd.

Arestio

Mae dau berson wedi cael eu harestio meddai pennaeth plismona gwrthderfysgaeth y Met, y Comisiynydd Cynorthwyol Laurence Taylor, gan ychwanegu ei fod wedi’i ddatgan yn “ddigwyddiad terfysgol”.

Mewn datganiad fe ddywedodd y llu eu bod wedi derbyn galwad gan aelod o'r cyhoedd a ddywedodd ei fod wedi gweld "car yn cael ei yrru at aelodau o'r cyhoedd, a bod un dyn wedi ei drywanu".

Ychwanegodd y datganiad fod gan bedwar aelod o'r cyhoedd anafiadau a gafodd eu hachosi gan y cerbyd ac anafiadau trywanu. 

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Orllewin Lloegr fod adnoddau wedi cael eu hanfon i'r digwyddiad. 

"Ein blaenoriaeth ydy sicrhau fod pobl yn derbyn y cymorth meddygol sydd ei angen arnynt cyn gynted â phosib," meddai'r datganiad. 

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud ei bod wedi ei thristau o glywed am yr ymosodiad.

Dywedodd Eluned Morgan AS: "Trist iawn i glywed am yr ymosodiadau yn synagog Heaton Park y bore ‘ma.

"Rwy’n meddwl am bawb yn y gymuned Iddewig a fydd wedi’u dychryn gan yr ymosodiad hwn.
 
"Rhaid i ni barhau i sefyll gyda'n gilydd yn erbyn pob math o drais, casineb ac anoddefgarwch." 
 
Yom Kippur
 

Mae aelodau o'r gymuned Iddewig ar hyn o bryd yn dathlu Yom Kippur.

Mae Yom Kippur yn cael ei ystyried fel y diwrnod mwyaf sanctaidd yn y calendr Iddewig, ac yn amser pan fo synagogau fel arfer yn brysur iawn.   

Dywedodd Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer ei fod wedi ei "arswydo" gan yr ymosodiad, gan ychwanegu: "Mae'r ffaith fod hyn wedi digwydd ar ddiwrnod Yom Kippur, diwrnod mwyaf sanctaidd y calendr Iddewig, yn gwneud hyn hyd yn oed yn fwy ofnadwy."

Mae Syr Keir wedi hedfan yn ôl yn gynt o gyfarfod gydag arweinwyr Ewropeaidd i gadeirio cyfarfod Cobra yn dilyn yr ymosodiad. 

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.