'Angen gwneud pob Nadolig yn arbennig wedi diagnosis o ganser'
Mae mam i ddau o blant ifanc a gafodd ddiagnosis o ganser yn 29 oed yn dweud bod angen iddi wneud pob Nadolig yn arbennig oherwydd “dydych chi byth yn gwybod os taw hwn yw eich un olaf”.
Dechreuodd Amy Isidoro o Gwmbrân, driniaeth ar gyfer math ymosodol o ganser y fron pan oedd ei mab Ben yn chwe mis oed a'i merch Phoebe yn bump oed.
Roedd Amy, sydd yn athrawes ysgol gynradd, yn heini a heb hanes teuluol o ganser y fron pan gafodd ddiagnosis.
Fe orffennodd rownd o gemotherapi ychydig cyn cyfnod y Nadolig, ond roedd yn rhaid iddi fynd yn ôl i’r ysbyty gyda haint.
“Dw i’n cofio meddwl 'alla i ddim methu Nadolig cyntaf fy mab'” meddai.
“Mae angen i mi fod adref. 'Plîs. Allwch chi fy nghael i adre fory ar gyfer Noswyl Nadolig?'
“Nid dyma’r Nadolig cyntaf y byddech chi’n ei ddymuno i’ch plentyn. Roeddwn i'n teimlo'n ofnadwy ac roedd y mis Rhagfyr cyfan wedi bod yn ganser."
Er ei bod hi’n dal i deimlo’n sâl iawn, llwyddodd Amy i gyrraedd adref erbyn 23 Rhagfyr ond mae’r profiad wedi ei gwneud hi’n benderfynol o wneud y gorau o bob eiliad gyda’i theulu.
“Dw i’n credu’n gryf yn yr angen i greu atgofion, oherwydd dydych chi byth yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd,” meddai Amy.
“Dydych chi ddim yn gwybod os taw hwn fydd eich Nadolig olaf neu'ch pen-blwydd olaf. Dw i jyst eisiau iddyn nhw gael yr atgofion Nadolig anhygoel yma rhag ofn na chawn ni un arall fel teulu.”
Fe aeth Amy, sydd bellach yn 35 oed, at y meddyg gyda phryderon am ei symptomau ym mis Gorffennaf 2020.
Pan ddaeth canlyniadau biopsi yn ôl, fe ddysgodd hi a'i gŵr Andrew fod ganddi ganser y fron triphlyg negatif.
“Dw i’n cofio meddwl, bydd Phoebe yn fy ngweld heb wallt ac mae hi’n mynd i wybod fy mod i’n sâl,” meddai.
"Dyna oedd fy mhryder i. Mae'n mynd i fod yn rhyfedd ac mae hi'n mynd i fod ofnus. Doeddwn i ddim eisiau iddi hi weld fi’n sâl.”
Triniaeth
Cafodd Amy chwe mis o gemotherapi gan ddechrau ym mis Awst, yna cafodd lawdriniaeth lwyddiannus ym mis Chwefror. Fe aeth hi yn ôl i'r gwaith ym mis Medi 2021 tra'n dal i gwblhau ei hwythnosau olaf o gemotherapi.
Mae hi wedi bod yn rhydd o ganser ers hynny ond roedd hi'n cael trafferth gyda'r broses o ddychwelyd i normalrwydd.
"Yn ystod y driniaeth ei hun, fe wnes i geisio yn galed iawn i beidio â meddwl am beth os na fyddai hyn yn gweithio" meddai.
“Doedd hynny ddim yn rhywbeth y gallwn i adael i mi fy hun ei feddwl oherwydd roeddwn i'n meddwl os af i lawr y llwybr yna, byddai'n anodd rheoli pethau.
Ar ôl i bopeth orffen,fe wnes i sylweddoli i y gallai hyn fod wedi mynd o chwith a’i bod yn bosibl na fyddwn i yma. Roeddwn i'n ei chael hi’n anodd wedyn.”
Hysbyseb
Mae Amy a'i theulu wedi cael eu hysbrydoli i rannu realiti byw gyda chanser adeg y Nadolig fel sêr hysbyseb teledu cyntaf elusen Ymchwil Canser Cymru.
Dywedodd Adam Fletcher, Prif Weithredwr Ymchwil Canser Cymru: “Dw i’n ddiolchgar iawn i Amy am ganiatáu i ni rannu ei phrofiad personol o ganser gyda phobl Cymru fel rhan o’r ymgyrch newydd, Rhodd Amser.
"Drwy wneud hyn, mae Amy yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymchwil i ganser, ei ddiagnosis a'i driniaeth mewn ffordd bwerus a chyffrous a fydd yn atseinio gyda chartrefi ledled y wlad.
“Mae Amy yn ysbrydoliaeth ac yn berson anhygoel, ac fel cefnogwr Ymchwil Canser Cymru mae hi eisoes wedi codi dros £5,500 i ni drwy redeg Marathon Llundain a threfnu noson gomedi yn ei neuadd gymunedol leol. Alla i ddim diolch digon iddi.”
