'Dim byd i'w guddio': Donald Trump yn galw am ryddhau dogfennau Epstein
Mae Donald Trump wedi galw ar y Gweriniaethwyr i bleidleisio o blaid rhyddhau dogfennau Epstein.
Mewn neges ar y cyfrwng cymdeithasol Truth Social dywedodd Arlywydd yr UDA y dylen nhw wneud hynny am nad oes "gennym ni ddim byd i'w guddio".
Daw'r newid cywair gan Mr Trump wedi awgrym bod dwsinau o Weriniaethwyr yn bwriadu pleidleisio o blaid rhyddhau'r dogfennau.
Y disgwyl yw y bydd yna bleidlais ar ddeddfwriaeth fyddai yn gorfodi'r adran gyfiawnder i ryddhau'r dogfennau.
Bwriad y mesur fyddai gwneud i'r adran gyfiawnder ryddhau'r holl ddogfennau, negeseuon a deunyddiau ymchwiliadol sy'n gysylltiedig â'r pedoffeil Jeffrey Epstein.
Mae'n debygol bod gan gefnogwyr y bil ddigon o gefnogaeth i'r mesur gael ei basio yn Nhŷ’r Gweriniaethwyr.
Ond dyw hi ddim yn glir os byddai'r mesur yn cael ei basio yn Senedd y wlad.
Fe fyddai yn rhaid i Mr Trump hefyd rhoi ei ganiatâd i'r dogfennau gael eu rhyddhau pe byddai'r mesur yn cael ei basio gan y ddwy siambr.
E-byst
Wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Democratiaid sydd ar bwyllgor craffu Tŷ’r Cynrychiolwyr gyfres o e-byst oedd yn cynnwys rhai rhwng Epstein a Ghislaine Maxwell.
Mae Maxwell yn y carchar am fasnachu pobl ar gyfer rhyw ac fe wnaeth Epstein ladd ei hun yn 2019 tra yn y carchar.
Mae’r e-byst gan Jeffrey Epstein yn dweud bod Trump “yn gwybod am y merched, ac wedi gofyn i Ghislaine stopio”. Nid yw'n eglur at beth mae hynny'n ei gyfeirio.
Doedd yr Arlwydd Trump heb dderbyn na chwaith anfon yr un o’r negeseuon, a oedd yn dyddio yn bennaf i’r cyfnod cyn ei fod yn arlywydd.
Nid yw Donald Trump wedi cael ei gyhuddo o unrhyw gamwedd troseddol mewn cysylltiad ag Epstein na Maxwell.
Fe ddywedodd y Gweriniaethwyr bod y Democratiaid wedi ceisio “creu naratif ffug i danseilio'r Arlywydd Trump” a'u bod wedi "dewis a dethol" dogfennau i'w rhyddhau.
Mewn llythyr ar gyfer y Gyngres mae teulu Virginia Giuffre a dioddefwyr eraill Epstein wedi gofyn i'r dogfennau gael eu rhyddhau.
