Ymchwiliad llofruddiaeth Aberteifi: Teyrnged i fenyw 21 oed
Mae teulu menyw 21 oed a gafodd ei darganfod yn farw yn Aberteifi wedi rhoi teyrnged iddi.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys yn gynharach ddydd Sul fod dyn 29 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i gorff Corinna Baker gael ei ddarganfod.
Cafodd swyddogion eu galw i ardal iard gychod Pwll y Rhwyd yn y dref am 12.35pm ddydd Sadwrn.
Mae swyddogion yn arbennig o awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn yr ardal tua 21.00 ddydd Iau, 13 Tachwedd.
Dywedodd ei theulu: “Rydym ni fel teulu yn drist iawn o golli ein Corinna annwyl.
“Roedd hi’n cael ei charu’n fawr a bydd ei theulu cyfan a phawb a gafodd y fraint o’i hadnabod yn gweld ei heisiau yn fawr.
“Rydym yn apelio at unrhyw un sydd â gwybodaeth i ddod ymlaen.
“Gofynnwn i bawb barchu ein preifatrwydd ar yr adeg hon a chaniatáu i ni alaru mewn heddwch.”
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ditectif Wayne Bevan: “Mae ein meddyliau gyda theulu Corinna yn ystod yr amser trasig hwn.
“Mae gennym swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn cefnogi’r teulu ac rydym yn gofyn i bobl barchu eu preifatrwydd.
“Rwy’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gamu ymlaen a chefnogi ein hymchwiliad.”