Cymro gafodd anaf difrifol i'w ymennydd yn cwblhau hanner marathon

Mark Davies

Mae dyn o'r gogledd a gafodd anaf difrifol i'w ymennydd wedi cwblhau Hanner Marathon Conwy ddydd Sul.

Fe ddioddefodd Mark Davies yr anaf pan gafodd ei daro gan gar a yrrodd i ffwrdd ym mis Ionawr 2023, ger ei gartref yn Llandudno.

Cyn iddo gwblhau'r her, fe ddywedodd Mr Davies ei fod yn un o'r bobl sydd yn cael eu cludo i'r ysbyty yn y DU bob 90 eiliad ar ôl derbyn anaf i'r ymennydd.

"Rwyf bellach yn rhan o'r ystadegau hynny," meddai. 

"Ar 28 Ionawr 2023... cefais anaf trawmatig i'r ymennydd, anaf a newidiodd fy mywyd yn llwyr. Cyn y ddamwain, roeddwn yn heini ac yn abl iawn, a rhedeg oedd fy angerdd mwyaf.

"Trwy waith caled, dycnwch a phenderfyniad, gyda chymorth llawer o wahanol weithwyr proffesiynol, teulu a ffrindiau, rwy'n gwella. Yn ailddysgu siarad, cerdded a rhedeg."

'Rhoi rhywbeth yn ôl'

Ychwanegodd ei fod wedi penderfynu gosod her iddo'i hun i gwblhau Hanner Marathon Conwy "i roi rhywbeth yn ôl i'r holl bobl sy'n cael trafferth gydag anaf i'r ymennydd."

Wrth redeg y ras yng Nghonwy dros y penwythnos, fe wnaeth ei niwroffisiotherapydd gyd-redeg gyda Mr Davies - un sydd wedi bod yn "allweddol" yn ei adferiad corfforol, meddai. 

"Mae Zoë, sy'n gweithio i'r Rehab Physio yn y Wirral, wedi darparu triniaeth bwrpasol i'm cael yn ôl i wneud yr hyn rwy'n ei garu," ychwanegodd.

Roedd Mr Davies yn rhedeg Hanner Marathon Conwy er mwyn codi arian at elusen Headway UK – y gymdeithas anafiadau i’r ymennydd sydd yn cefnogi goroeswyr, eu teuluoedd, a gofalwyr.

Mae wedi llwyddo i gasglu £5,700 drwy ei ymgyrch godi arian i'r elusen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.