Enwi sgwâr yn Y Swistir er cof am Richard Burton
Mae sgwâr mewn pentref yn Y Swistir wedi cael ei enwi er cof am y Cymro a’r actor byd-enwog, Richard Burton.
Cafodd yr enw ei ddadorchuddio yn rhan o ddigwyddiadau i nodi 100 mlynedd ers genedigaeth y seren Hollywood ym Mhontrhydyfen, Castell-nedd Port Talbot yn 1925.
Cafodd Richard Burton ei enwebu am sawl Gwobr yr Academi yn ystod ei yrfa yn y byd ffilm a theatr.
Ymhlith rhai o'i ffilmiau mawr, roedd Cleopatra, Who’s Afraid of Virginia Woolf?, a The Spy Who Came in from the Cold.
Fe ymgartrefodd ym mwrdeistref Céligny ger Genefa yn y Swistir, o 1957 hyd at ei farwolaeth yn 1984.
Mae plac bellach wedi cael ei ddadorchuddio yn yr ardal, ar ôl i sgwâr y pentref gael ei ail-enwi er cof amdano.
Mae’r sgwâr bellach yn cael ei adnabod fel ‘Place Richard Burton’.
'Talent Cymru'
Yn dilyn y digwyddiad, roedd yna daith gerdded i fynwent Céligny lle cafodd Richard Burton ei gladdu.
Cafodd un o gerddi ei ffrind agos, Dylan Thomas, ei ddarllen yno er mwyn cofnodi'r achlysur.
Roedd Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant yn bresennol yn y digwyddiad. Dywedodd bod y seremoni yn gyfle i ddathlu “nid yn unig ei fywyd, ond dylanwad parhaol ei waith, ei wreiddiau Cymreig, a'i gyrhaeddiad byd-eang.
"Ni anghofiodd Richard Burton erioed ei dreftadaeth Gymreig – roedd ei lais unigryw yn cario hanfod Cymru i'r dychymyg byd-eang.
“Mae ei daith o Gymru i enwogrwydd rhyngwladol yn dangos sut mae diwylliant a thalent Cymru yn parhau i atseinio ledled y byd," meddai.
