Cadarnhad mai dim ond un clwb rygbi proffesiynol fydd yn y gorllewin yn y dyfodol

Y Byd ar Bedwar

Cadarnhad mai dim ond un clwb rygbi proffesiynol fydd yn y gorllewin yn y dyfodol

Mae un o benaethiaid Undeb Rygbi Cymru wedi dweud wrth raglen Y Byd ar Bedwar mai dim ond un clwb rygbi proffesiynol fydd yn ne orllewin Cymru erbyn diwedd tymor 26/27.

Mewn cyfweliad ar raglen Y Byd ar Bedwar, pan ofynnwyd i Dave Reddin os yw cynlluniau’r Undeb i dorri un rhanbarth proffesiynol yn golygu na fydd rygbi proffesiynol yn un o gadarnleoedd rygbi, sef Llanelli neu Abertawe, dywedodd: “Dwi’n meddwl mai dyna fydd y sefyllfa.”

Ychwanegodd: “Does neb eisiau bod yn y sefyllfa ry’n ni ynddi, ac fe ddywedon ni reit o’r cychwyn, petai yna arian diderfyn a bod gennym ni’r lefel o dalent i allu cefnogi pedwar tîm, gallai hynny wedi bod yn opsiwn, ond dydy o ddim.”

Fis Hydref, cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru ei fod am dorri un tîm proffesiynol erbyn 2027. Mae hyn yn golygu y bydd tri thîm proffesiynol yng Nghymru yn cael eu hariannu’n gyfartal - un yn y dwyrain, un yng Nghaerdydd, ac un yn y gorllewin.

Dywedodd yr Undeb fod y dalent a’r cyllid o fewn rygbi yng Nghymru yn golygu mai dim ond tri thîm all fod yn gynaliadwy ac yn gystadleuol. 

Fel Cyfarwyddwr Rygbi a Pherfformiad Elît yr Undeb, Dave Reddin yw pensaer y cynlluniau. 

'Ateb cywir' 

Wrth amddiffyn y penderfyniad, dywedodd: “Mae’n rhaid i ni edrych ar nifer o ffactorau, ond mae poblogaeth yn un, mae nifer y clybiau yn un arall, yn ogystal â chyfleusterau a chysylltiadau addysgiadol. Felly mae cyfuniad o’r ffactorau hynny wedi’n harwain ni i feddwl mai dyma’r ateb cywir.”

Mae’r penderfyniad wedi siomi nifer o gefnogwyr y Gweilch a’r Sgarlets, gan gynnwys Nia Rhys Williams, sy’n gefnogwr brwd o’r Sgarlets. 

“Mae mynd lawr i Barc y Sgarlets wedi dod yn rhan annatod o ‘mywyd i. Fi’n rili siomedig ‘da’r Undeb bod nhw am dorri rhanbarth,” meddai.

“Sai’n credu bod yr Undeb yn deall be’ maen nhw’n ‘neud. Mewn ardal fel Llanelli, maen nhw am chwalu’r gymuned achos, yn economaidd, ‘sdim byd arall yn y dre’ nac yn yr ardal. Bydde fe’n ofnadwy os bydde’r Sgarlets yn diflannu.”

Image
Nia Williams sy’n cefnogi’r Sgarlets
Mae Nia Rhys Williams yn cefnogi’r Sgarlets

Fel rhan o’u hachos i oroesi, mae’r Sgarlets wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cefnogi 330 o swyddi ac yn cyfrannu £17 miliwn i’r economi leol bob blwyddyn. Dros y degawd diwethaf, mae 34% o chwaraewyr Cymru wedi dod drwy system y Sgarlets.

'Dim ffydd'

Mae Ifan, mab saith oed Nia, yn cefnogi’r Sgarlets hefyd.

“Ma fe’n gofyn i fi beth sydd yn mynd i ddigwydd, a fi ddim yn gwybod, i fod yn onest - fi ffili rhoi ateb iddo fe - achos gall pethau newid ‘fory nesa’ gyda'r Undeb. ‘Sdim ffydd ‘da fi o gwbl yn yr Undeb. Tan bod pethe’n newid, fydda’i ddim yn mynd i wylio Cymru’n chwarae,” meddai.

“Dw’i ddim yn mynd i roi arian ym mhocedi’r Undeb tan bo’ nhw yn ariannu ni’n deg.”

Ers sefydlu’r rhanbarthau yn 2003, y Gweilch yw’r tîm mwyaf llwyddiannus yng Nghymru - yn bencampwyr y gynghrair bedair gwaith. Maen nhw wedi cynhyrchu mwy o chwaraewyr Cymru, a mwy o Lewod, nag unrhyw ranbarth arall. 

Mae Dafydd Francis yn gefnogwr brwd o’r rhanbarth, ac wedi’i siomi â phenderfyniad yr Undeb hefyd.

Image
Dafydd Francis, cefnogwr Y Gweilch
Dafydd Francis, cefnogwr Y Gweilch

“O ran cefnogi rygbi (yn ardal y Gweilch), bendant fi’n credu fydd e’n marw. Mae’n sefyllfa eitha’ trychinebus ar hyn o bryd - mae’n anodd iawn i gael pobl i brynu tocynnau Cymru,” meddai.

"Pe bai’r Gweilch yn mynd, bydde fe’n cael ysgytwad enfawr ar ein cymunedau a’r berthynas rhwng rygbi a’i werin bobl.”

"Mae pawb yn trïo tyfu’r gêm, ond ry’n ni yn mynd allan o’n ffordd i geisio lleihau’r gêm. Dw’i ddim yn gwybod pam - does dim synnwyr i hynny. Bydden ni ddim wedi cael y llwyddiant gawson ni dan Warren Gatland gyda jyst tri rhanbarth.

"Maen nhw’n sôn am geisio cryfhau y talent sydd yng Nghymru - dw’i ddim yn credu bod tri rhanbarth yn mynd i roi cyfle i fois ifanc ddod trwyddo o gwbl.

"Bydde Aaron Wainwright ddim ‘di dod drwodd gyda tri fel rhif, a fi ddim yn credu bydde Sam Warburton wedi cael ei yrfa fe - bydde fe ddim ‘di cael yr un cyfleoedd.”

'Rhowch gyfle i ni' 

Wrth ymateb i sylwadau Dafydd a Nia, dywedodd Dave Reddin:

“‘Dyw e ddim yn dda (bod cefnogwyr wedi’u brifo). Ond dydyn ni ddim yn gallu datrys popeth. Does dim potensial i’r dyfodol heb rywfaint o boen tymor-byr, mae gen i ofn, a dw’i methu osgoi hynny.”

Ychwanegodd: “Dydw i ddim yn gallu deall cymunedau Cymreig a phobl Cymru yn yr un ffordd ag y gall bobl o Gymru. Ond dw’i ddim eisiau rhoi’r argraff nad ydw i’n poeni. Dwi’n meddwl mai’r hyn alla’ i gyfrannu yw empathi a pharch at y cymunedau. Ond, i fod yn blaen, petawn i’n trïo bodloni emosiynau pawb, fydden ni byth yn gwneud penderfyniadau.”

Pan ofynnwyd iddo beth fyddai ei neges i gefnogwyr rygbi yng Nghymru, dywedodd: “Plîs rhowch gyfle i ni. Dwi’n gwybod ei fod yn anodd, dwi’n gwybod ei fod yn emosiynol, ac mae’n ddrwg gen i mai dyna’r sefyllfa. 

“Ond dw’i wir yn meddwl mai’r hyn ry’n ni’n ceisio’i gynnig yw dyfodol rygbi Cymru. Felly cadwch gyda ni, cefnogwch ni, a gallwn ni i gyd wneud hyn yn llwyddiant.”

‘Y Byd ar Bedwar: Be’ nesa’ i rygbi Cymru?’ nos Lun, am 20:00, ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.