
Achos Neil Foden: Rhagweld bod Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am 'nifer' o fethiannau
Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd wedi dweud ei bod yn rhagweld y bydd yr awdurdod yn gyfrifol am “nifer” o fethiannau i atal y pedoffeil Neil Foden.
Cafodd cyfarfod i rannu canfyddiadau Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol yn sgil troseddau’r cyn-brifathro ei ganslo gyda llai na 24 awr o rybudd yr wythnos ddiwethaf gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.
Dywedodd y bwrdd y byddai’r adroddiad hirddisgwyliedig yn cael ei gyhoeddi “cyn gynted ag y bydd yn bosib”.
Mewn cyfarfod llawn o Gyngor Gwynedd ddydd Iau, nid oedd diweddariad ynglŷn â dyddiad newydd ar gyfer cyhoeddiad yr adroddiad.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru i ofyn a oes dyddiad newydd wedi ei osod.

Cafodd yr adolygiad dan gadeiryddiaeth annibynnol Jan Pickles OBE ei gomisiynu fis Awst y llynedd yn dilyn euogfarn y cyn-brifathro Neil Foden.
Fe'i cafwyd yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin merched ifanc yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.
Roedd Neil Foden yn cael ei gyflogi gan Gyngor Gwynedd fel pennaeth Ysgol Friars ym Mangor ac wedi bod yn bennaeth strategol dros dro yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.
‘Dim esboniad’
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Linda Morgan, dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Nia Jeffreys: “Rydym wedi cysylltu’n ffurfiol gyda’r Bwrdd Diogelu i ofyn am esboniad ond yn anffodus hyd yma does gennym ddim gwybodaeth am y rhesymau am yr oedi.
“Mi alla i roi sicrwydd i'r Cyngor nad oedd gan Gyngor Gwynedd unrhyw ran i'w chwarae yn y penderfyniad ac rydym yn awyddus i weld yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn gynted â phosib.

“Rydw i'n rhagweld y bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at fethiannau i atal y pedoffeil, Neil Foden, a bod nifer o’r rhain yn gyfrifoldeb ar y Cyngor hwn.
“Mae’n loes calon i mi feddwl bod ein systemau diogelu ni ar y pryd wedi methu diogelu ac amddiffyn plant a ddylai fod wedi bod yn ddiogel yn eu hysgol.”
Fe ychwanegodd yr arweinydd bod y Cyngor yn monitro a mesur cynnydd Cynllun Ymateb i’r troseddau, a gafodd ei weithredu ar ddechrau’r flwyddyn.
Fel rhan o’r Cynllun Ymateb, sefydlwyd Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb ac yn ei adroddiad diweddaraf, dywedodd y Cadeirydd, yr Athro Sally Holland bod “cynnydd cadarnhaol yn cael ei wneud ar draws y ffrydiau gwaith.”
Ychwanegodd Ms Jeffreys: “Wedi dweud hynny mae llawer mwy i’w wneud a rhagwelir nifer o argymhellion pellach yn dilyn cyhoeddi’r Adolygiad Ymarfer Plant - byddwn yn eu derbyn i gyd ac yn eu rhoi ar waith yn syth.
“Ni fyddwn yn cuddio o’n cyfrifoldeb; rhaid sicrhau y bydd popeth yn cael ei wneud er mwyn diogelu plant Gwynedd.
“Mae fy meddwl i yn parhau gyda’r dioddefwyr, eu teuluoedd a’r gymuned gyfan sydd wedi aros yn hir i weld yr adroddiad holl bwysig yma.”
‘Dan gwmwl’
Fe ddywedodd y Cynghorydd Louise Hughes bod gohirio rhyddhau’r adroddiad yn “codi cwestiwn ynghylch pa mor effeithiol yw gweithdrefnau canu'r gloch y Cyngor hwn.”

“Rydym i gyd dan gwmwl yn sgil y sefyllfa ofnadwy hon. Mae rhieni sy'n anfon eu plant i'n hysgolion yn ymddiried yng Nghyngor Gwynedd i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel.”
Fe ychwanegodd bod gweithdrefnau’r cyngor i ddiogelu plant wedi methu oherwydd bod Foden yn “fwli”.
“Roedd pobl yn ei ofni yn ofnadwy, ac mae bwlio yn y gweithle yn annerbyniol, fe ddylai wedi cael ei amlygu’n gynt.”
Wrth ymateb, fe ddywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod y Cabinet dros Addysg: “Dwi’n cytuno fod bwlio yn y gweithle yn annerbyniol ac mae’n rhywbeth mae Cyngor Gwynedd ym mhob adran yn gwneud ein gorau i gael gwared ohono fo. Ond yn amlwg, mi oedd Foden yn dangos tueddiadau bwlio.
“Mae 'na awgrymiadau yn eich araith bod Cyngor Gwynedd mewn rhyw ffordd yn trio tawelu pobol. Da ni ddim yn trio tawelu neb. Dim penderfyniad y Cyngor hwn, na neb yn yr ystafell yma, oedd atal cyhoeddi’r adroddiad."

Ychwanegodd y cynghorydd: "Mae hwnna yn benderfyniad i’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol. Ac mae hwnna’n beth pwysig, mai nid ni sy’n ymchwilio mewn i’r methiannau amlwg sydd wedi digwydd yng Nghyngor Gwynedd, ond bwrdd diogelu rhanbarthol, sydd ar wahân i ni.
"Yn symud ymlaen gobeithio bod hynny’n rhoi hyder i bobl bod yr ymchwiliadau wedi eu gwneud yn annibynnol, yn drylwyr, a bod nhw’n gallu cryfhau ein systemau ni.
“Alla'i ddim deud 'neith o ddim digwydd byth eto. Ond allwn ni neud ein gorau i sicrhau bod ni’ efo’r trefniadau gorau posib. Mae dyfodol ein plant a phobol ifanc ar y lein, a fyddai’n gwneud pob dim o fewn fy ngallu bod hynny yn digwydd.”