Cymru Premier JD: Pen-y-bont yn gobeithio dringo i frig y tabl
Wedi dechrau da i'r tymor mae Pen-y-bont yn yr ail safle yn nhabl y Cymru Premier JD, tra bod eu gwrthwynebwyr nos Wener, Llansawel yn y nawfed safle.
Ond bydd gan Pen-y-bont gyfle i ddringo i frig tabl am y tro cyntaf y tymor hwn gyda buddugoliaeth dros eu hymwelwyr o ben arall yr M4.
Mae tîm Rhys Griffiths wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf gan ildio dim ond unwaith i gadw o fewn un pwynt i’r ceffylau blaen, Y Seintiau Newydd.
Mae’n stori dra wahanol i Lansawel, sydd ar rediad o chwe gêm gynghrair heb fuddugoliaeth, a dyw dynion Andy Dyer heb ennill gartref yn y gynghrair ers mis Mawrth.
Ond mae Llansawel eisoes wedi curo Pen-y-bont unwaith y tymor hwn, a hynny ar giciau o’r smotyn yn nhrydedd rownd Cwpan Nathaniel MG wedi iddi orffen yn 2-2 ar ôl 90 munud yn Stadiwm Dragonbet fis diwethaf.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ͏➖❌➖❌❌
Pen-y-bont: ͏➖✅✅✅✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.