Cais i chwalu hen bwll nofio Gwersyll yr Urdd Llangrannog ac adeiladu un newydd

Pwll nofio newydd

Mae cais cynllunio wedi ei gyflwyno ar gyfer pwll nofio newydd yng Ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog.

Cafodd cais i ymestyn yr adeilad presennol ei gyflwyno'r llynedd ac fe gafodd sêl bendith cynghorwyr.

Mae’r cais diweddaraf yn gofyn am ganiatâd i chwalu'r hen adeilad o’r 1970au ac adeiladu un newydd yn ei le.

Cyflwynwyd y cais gan Urdd Gobaith Cymru trwy'r asiant Spencer Pughe Associates Ltd.

Mae'r cais yn dweud y bydd y datblygiad newydd yn cynnwys pwll nofio ac ystafelloedd newid newydd gan fod yr adeilad presennol yn colli gwres ddim yn hygyrch.

“Mae'n cynrychioli gwelliant sylweddol ar y cyfleuster presennol a model o ddatblygiad cynaliadwy a chynhwysol sy'n gyson ag ymrwymiadau Cymru i weithredu ar yr hinsawdd, bioamrywiaeth a lles cymunedol,” meddai’r cais.

Image
Yr hen adeilad
Yr hen adeilad

Wrth ymateb i’r cais fe wnaeth gwasanaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol Ceredigion godi pryderon bod yna beryg i ddŵr gronni ar wyneb y tir, gan awgrymu gwelliannau i liniaru hynny.

Mae dros filiwn o blant a phobl ifanc wedi aros yng Nghanolfan yr Urdd Llangrannog ers ei sefydlu ym 1932.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.