Starmer: Sylwadau swyddogion Heddlu’r Met yn ‘syfrdanol’

Comisiynydd y Met, Syr Mark Rowley
Comisiynydd y Met, Syr Mark Rowley

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod ymddygiad swyddogion Heddlu’r Met a gafodd eu ffilmio'n gyfrinachol yn gwneud sylwadau hiliol a rhywiaethol yn “syfrdanol”.

Fe gafodd y sylwadau eu ffilmio fel rhan o raglen ddogfen Panorama gan y BBC.

Roedd rhai swyddogion mewn gorsaf heddlu yng nghanol Llundain yn galw am saethu mewnfudwyr ac yn brolio am ddefnyddio trais yn erbyn pobl yr oedden nhw’n eu hamau o droseddu.

Wrth ymateb i'r rhaglen ddogfen, dywedodd Syr Keir Starmer: "Dydw i ddim wedi gweld y ffilm eto, ond rydw i wedi derbyn disgrifiad, ac mae'n syfrdanol, ac rwy'n falch bod y comisiynydd yn ymateb.

"Mae angen iddo fod yn gadarn iawn yn ei ymateb."

Dywedodd comisiynydd y Met, Syr Mark Rowley, y gall pobl yn Llundain ymddiried yn y "mwyafrif helaeth" o swyddogion yr heddlu.

Ychwanegodd ei fod ef hefyd wedi’i "arswydo" gan y rhaglen ddogfen.

Dywedodd wrth LBC ddydd Iau: "Rydym yn deall pam fod pobl yn ofidus ac yn ddig wrth wylio hyn, a bydd yn gwneud iddyn nhw gwestiynu eu hymddiriedaeth yn Heddlu’r Met. 

“Gallwch fod yn dawel eich meddwl ein bod ni’n gweithio’n galed i gael gwared ar y cymeriadau hyn.

“Gallwch ymddiried yn y mwyafrif helaeth o ddynion a menywod gwych sydd allan yna i’ch amddiffyn a’ch gwasanaethu.”

Mae 11 o swyddogion bellach i gyd dan ymchwiliad am gamymddwyn difrifol gan y corff gwarchod, sef Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

Llun gan PA/ Yui Mok.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.