
Barn pobl ifanc 'yn flaenoriaeth' wrth fynd i'r afael â thrais mewn ysgolion
Barn pobl ifanc 'yn flaenoriaeth' wrth fynd i'r afael â thrais mewn ysgolion
Gyda thrais mewn ysgolion ar gynnydd, mae Senedd Ieuenctid Cymru'n dweud bod clywed barn pobl ifanc am ymddygiad mewn ysgolion yn flaenoriaeth.
Mae’r Senedd yn bwriadu rhoi sylw arbennig i hyn gan gynnal arolwg ar draws disgyblion Cymru i glywed safbwyntiau gwahanol.
Fe ddaw hyn yn dilyn ymosodiad gan ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Aman yn 2024 pan gafodd dwy athrawes a disgybl eu trywanu.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae unrhyw drais mewn ysgolion yn cael ei gondemnio ac maen nhw’n gweithio gydag ysgolion.
Bwriad Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru ydy dechrau arolwg gan holi disgyblion am eu profiadau nhw o ymddygiad mewn ysgolion a holi am unrhyw bryderon gan rannu ymarfer da.
Yn ôl ymchwil gan undeb addysg NASUWT Cymru, fe gafodd 6,466 adroddiadau o drais mewn ysgolion eu cofnodi gan awdurdodau lleol yng Nghymru rhwng 2023 a 2024.
Y ffigwr yn y flwyddyn flaenorol oedd 4,714.
'Ysgogi trafodaeth'
Mi gafodd disgyblion yn Ysgol y Creuddyn ym Mae Penrhyn y cyfle cyntaf i drafod gyda swyddogion ac aelodau i rannu eu profiadau.
Yn ôl Lex, sy’n aelod o’r Senedd Ieuenctid, mae’r hyn ddigwyddodd yn Ysgol Dyffryn Aman wedi ysgogi trafodaeth.
“Mi roedd llawer o’r aelodau wedi rhoi areithiau rili rili da am trosedd a digwyddiadau personol i nhw,” meddai.
“Roedd un aelod yn ddisgybl mewn ysgol oedd wedi cael trosedd eithaf gwael ac oherwydd hynny dyma ni’n meddwl bod yn rhaid i ni gymryd ysbrydoliaeth ella.”

Ychwanegodd: “Un o’r rhesymau mwyaf [i ni ddewis y pwnc] oedd oherwydd bod o’n digwydd i ni rŵan, ac roeddem yn teimlo bod ni’n gallu cael effaith.”
Gydag ymchwil undeb addysg NASUWST Cymru yn dweud bod 35.5% o staff a holwyd wedi dioddef ymosodiad corfforol tra’n gweithio, a 92% wedi cael eu cam-drin yn eiriol, mae undebau’n poeni am yr effaith ar y gweithlu.
“Does dim dwywaith bod ymddygiad wedi gwaethygu,” meddai Ioan Rhys Jones o undeb UCAC.
“Mae’r pryder sydd gan ein haelodau ni yn bryderon real iawn. A does dim syndod bod gan ddisgyblion bryder, mae gan athrawon bryder.
“Pryder dros nhw eu hunain, ond yn bwysicach am y plant, ac mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hynny a sicrhau bod y llywodraeth yn cynnig arweiniad o safon.”
Mae disgyblion rŵan yn cael eu hannog i rannu eu profiadau.
“Maen nhw eisiau edrych mewn i pam bod pethau fel hyn yn digwydd,” meddai Caryl Mai Hughes, swyddog addysg ac ymgysylltiad pobl ifanc Senedd Cymru.
“Oes rhywbeth mae modd gwneud i wella perthnasoedd mewn ysgolion rhwng disgyblion a staff?” meddai.
“Ac maen nhw hefyd eisiau gweld be sy’n gweithio’n dda mewn ysgolion ledled Cymru a mabwysiadu hynny.”

Gyda phryder ar draws y byd addysg bod cyfnod y pandemig wedi cyfrannu’n helaeth at newid mewn ymddygiad ac agweddau, yn ôl rhai disgyblion yn Ysgol y Creuddyn maen nhw’n teimlo bod y sefyllfa yn dechrau gwella.
“Dwi’n teimlo bod o wedi gwella,” meddai Elowen o flwyddyn 11.
“Mae’r ysgol yn shutio down unrhyw bethau [drwg] sy’n digwydd a dwi’m yn teimlo bod o’n mynd yn waeth.”
Rhannu'r un farn y mae Heledd o flwyddyn 11.
“Os mae cam-drin tuag at staff yn digwydd mae’r system cosbi newydd yn cau hwnna lawr ac yn gwneud yn siŵr nad ydi o’n digwydd eto,” meddai.
Dywedodd y ddwy bod nifer o systemau newydd yn eu lle bellach sydd hefyd yn cynnig cymorth i ddisgyblion gydag aelodau o staff penodedig y mae modd troi atynt os oes unrhyw bryder gan ddisgyblion.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae unrhyw fath o gam-drin neu drais mewn ysgolion yn gwbl annerbyniol ac rydym yn croesawu ymrwymiad Senedd Ieuenctid Cymru i edrych ar y materion pwysig hyn.
“Rydym yn gweithio gyda’r sector addysg i fynd i’r afael a phryderon ymddygiad mewn ysglion ac i wneud nhw’n mannau diogel i staff a dysgwyr gan adeiladu yr hyn gafodd ei drafod yn ein cynhadledd ymddygiad diweddar.
“Bydd yr Ysgrifenydd Cabinet Addysg yn mynychu Senedd Ieuenctid Cymru ym mis Tachwedd i glywed canlyniadau y gwaith pwysig hwn”.