'Gofid mawr': Nain o Ben Llŷn wedi marw wrth ddisgwyl pum awr am ambiwlans

ITV Cymru
Lynne Johnson

Mae teulu nain oedd yn byw ym Mhen Llŷn a fu farw ar ôl disgwyl pum awr am ambiwlans wedi dweud eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw wedi eu methu gan y gwasanaeth iechyd.

Bu farw Lynne Johnson yn 58 oed ar ôl iddi ddioddef rhwystr mewn gwythïen yn ei hysgyfaint (pulmonary embolism) ar 17 Ebrill eleni.

Treuliodd ei gŵr Andrew Johnson bron i awr yn ceisio ei hadfywio gyda CPR ar ôl cael gwybod y byddai ambiwlans hys at saith awr yn cyrraedd eu cartref ger Aberdaron.

Dywedodd wrth ITV Cymru bod Lynne wedi mynd yn sâl am hanner awr wedi hanner nos ar 17 Ebrill. 

"Tapiodd hi fi ar fy ysgwydd a deffrais i ac fe ddywedodd hi: 'Andy, Andy mae rhywbeth o'i le, mae rhywbeth yn digwydd'.

"Troais rownd ac fe ymestynnodd hi'n syth allan, aeth ei llygaid i gefn ei phen ac fe gafodd ryw fath o - dyna ddywedais wrth y bobl ar yr alwad 999 - rhyw fath o drawiad, rhyw fath o ffit."

Ond fe gafodd Mr Johnson wybod y byddai'n aros saith awr am ambiwlans.

"Cwympodd fy stumog, allwn i ddim credu'r peth,” meddai.

“Fe ddywedais i wrthyn nhw - mae angen ambiwlans arna i, mae angen ambiwlans arna i rŵan."

Image
Andrew Johnson a'i fab
Andrew Johnson a'i fab

Roedd yr alwad 999 wedi'i chategoreiddio fel un 'ambr' yn hytrach nag un ‘coch’ - ac mae Mr Johnson yn dweud bod hynny'n fethiant gan y gwasanaeth ambiwlans.

Fe ffoniodd ef a’i fab 999 bum gwaith ond ni chafodd ei alwad ei huwchraddio i alwad categori 'coch' mewn pryd i achub Lynne. 

"Rwy'n credu ei bod hi'n anodd iawn iddyn nhw wneud diagnosis o ben arall y ffôn,” meddai.

“Ond pe baech chi'n gwrando ar yr alwad ffôn, mae’n amlwg ei fod yn sefyllfa hollol ddifrifol, anobeithiol.”

Mae Mr Johnson yn dal i ddod i delerau â'r ffordd drawmatig y collodd ei wraig chwe mis yn ôl, meddai.

“Does dim diwrnod yn mynd heibio heb i mi feddwl amdani," meddai. "Mae'n peri gofid mawr.”

Image
Lluniau'r teulu

‘Ymddiheuro’

Roedd adroddiad gan grwner canol gogledd Cymru wedi datgan nad oedd yr amser ymateb gan barafeddygon wedi cyrraedd y targedau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Ond penderfynodd bod y galwadau 999 wedi'u categoreiddio'n briodol.

Yn y pum awr tra roedd Lynne yn aros am ambiwlans, roedd yr Ymddiriedolaeth Ambiwlans dan “bwysau difrifol” gyda lefelau'r galw ymhell yn fwy na'r adnoddau oedd ar gael.

Roedd oedi wrth drosglwyddo cleifion a hefyd galwadau ‘ambr’ eraill wedi eu blaenoriaethu, meddai'r crwner. 

Dywedodd Liam Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd a Nyrsio yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu Mrs Johnson ar eu colled drist ac ymddiheuro am yr hyn a fyddai wedi bod yn brofiad hynod ofidus.

“Nid yw'r hyn a ddigwyddodd yma yn adlewyrchu'r gwasanaeth yr ydym am ei ddarparu.

“Byddem yn gwahodd teulu Mrs Johnson i ail-gysylltu â'n tîm Unioni Cam fel y gallwn ailddechrau ein hymchwiliad i'r hyn a ddigwyddodd a rhannu canfyddiadau'r ymchwiliad hwnnw'n uniongyrchol gyda'r teulu.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth ITV eu bod nhw wedi newid sut oedden nhw’n monitro perfformiad Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Dywedodd llefarydd: "Mae'n ddrwg gennym glywed am brofiad y teulu.

“Ym mis Gorffennaf, fe wnaethon ni lansio model ymateb clinigol newydd a gynlluniwyd i achub rhagor o fywydau a gwella canlyniadau pobl yn dilyn ataliad ar y galon, salwch difrifol, digwyddiad neu ddamwain. 

“Yn ddiweddarach eleni, bydd newidiadau pellach yn cael eu gwneud i helpu i sicrhau'r gofal cywir, yn y lle cywir, y tro cyntaf, ar gyfer pob galwad.

“Rydym wedi bod yn glir gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch ein disgwyliadau, ac maent yn gweithio ar wella trosglwyddo cleifion ambiwlans a llif yr ysbyty.

“Rydym wedi sefydlu tasglu cenedlaethol dan arweiniad clinigol i gefnogi ymdrechion i liniaru’r oedi wrth drosglwyddo cleifion. 

“Rydym wedi gweld gwelliannau ar draws yr holl fyrddau iechyd eraill a'r amser a dreuliodd ambiwlansau yn aros i drosglwyddo cleifion i staff mewn adran achosion brys ysbyty ym mis Awst 2025 oedd yr ail isaf ers mis Gorffennaf 2021. 

“Mae hwn yn gam cadarnhaol tuag at wella argaeledd ambiwlansys.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.