Cyhoeddi enillwyr cronfa newydd i ddatblygu cerddoriaeth ar lawr gwlad

Enillwyr cronfa PYST

Mae cwmni cerddoriaeth PYST wedi cyhoeddi’r sefydliadau buddugol fydd yn cael eu cefnogi gan eu cronfa newydd. 

Cafodd Cronfa Cerddoriaeth PYST 2025-26 ei lansio eleni er mwyn hybu cerddoriaeth Cymru ar lawr gwlad. 

Fe fydd PYST, sydd yn wasanaeth dosbarthu a hyrwyddo ar gyfer labeli annibynnol yng Nghymru, bellach yn darparu cefnogaeth ariannol i’r cyrff cerddorol llwyddiannus.

Cafodd y rhestr o sefydliadau buddugol eu dewis gan banel annibynnol. 

Doedden nhw ddim yn cael eu hariannu cyn hynny. 

Ymhlith y prosiectau fydd yn cael eu hariannu y mae ymgyrchoedd i ryddhau recordiau gan labeli o Gymru, gweithdai cerddorol, a chyfres o sesiynau rhwydweithio ar gyfer gwella hygyrchedd i bobl anabl sydd yn rhan o’r diwydiant.

'Creu lle diogel'

Bydd corff Amplifying Accessibility yn elwa o’r gronfa drwy gynnal cyfres o sesiynau rhwydweithio am ddim ar gyfer gweithwyr anabl yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

Dywedodd ei sylfaenydd, Keys Barber y byddan nhw “yn gallu creu lle diogel, cefnogol a hygyrch i weithwyr cerddoriaeth anabl ledled Cymru” gyda’u cefnogaeth. 

Fe fydd hynny’n sicrhau bod cerddorion anabl yn teimlo eu bod “wedi'u grymuso” i barhau i “ffynnu” o fewn y celfyddydau creadigol hefyd, meddai. 

Bydd y cronfa hefyd yn mynd tuag at ddatblygu artistiaid ac isadeiledd label Recordiau Libertino – a hynny’n “drawsnewidiol” iddynt. 

“Mae’n ein galluogi, dros y chwe mis nesaf, i ymbweru lleisiau newydd, i fuddsoddi ymhellach yn ein hartistiaid presennol, ac i osod y seilwaith ar gyfer prosiectau sydd yn dathlu ac ehangu gwaddol cerddoriaeth amgen Cymru,” meddai Gruffydd Owen, perchennog a rheolwr y label. 

'Safon'

Mae cwmni PYST yn hyrwyddo a dosbarthu recordiau gan dros 75 label annibynnol yn y wlad ac yn casglu ac yn dosbarthu eu hincwm ffrydio. 

Bydd y gronfa yn cael ei gweinyddu ganddyn nhw ar ran Cymru Greadigol. 

Dywedodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST: “Mae’r ymateb bositif a gafwyd i’r gronfa hon, a safon y ceisiadau hynny, yn dysteb i greadigrwydd ac angerdd y labeli a sefydliadau sydd yn asgwrn cefn i’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. 

“Mae PYST yn hynod falch o gefnogi’r prosiectau amrywiol a hanfodol yma, ac yn gyffrous i’w gweld yn datblygu dros y misoedd nesaf." 

Dyma restr lawn o'r prosiectau llwyddiannus: 

Amplifying Accessibility: In Tune Cyfres o sesiynau rhwydweithio am ddim ar gyfer gweithwyr anabl yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

I KA CHING Pum albwm gan bum band/artist ar y label.

Bryn Rock Recordio a hyrwyddo cerddoriaeth newydd gan artistiaid o Ddyffryn Clwyd.

Lwcus T EP Cyn Cwsg

Recordiau Libertino Datblygu artistiaid, isadeiledd, treftadaeth diwylliannol ac arloesedd y label.

Fflach Cymunedol Ail-recordiad o Sefyll ar y Sgwar gan Ail Symudiad, gan rai o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru.

Slush Dau weithdy jamio dwy-ieithog yn CWRW, Caerfyrddin wediu targedu at bobl ifanc au teuluoedd.

TIWN Media Sioe wythnosol yn tynnu sylw at wahanol artistiaid drwy berfformiadau a chyfweliadau

Recordiau Sbensh Datblygu, recordio a hyrwyddo EP y band ifanc Y Ddelwedd

Klep Dim Trep Father Figure’, record newydd Bitw

INOIS 15 cân newydd ar draws 5 o artistiaid y label

Klust Curadu, creu, dosbarthu a hyrwyddo pedwerydd rhifyn o Gylchgrawn Klust.

Bubblewrap Collective Rhyddhau recordiau pedwar o artistiaid y label.

MELANGE Records Prosiect yn cynnwys cyfres o draciau gan yr artist electronig Earl Jeffers.

Future Femme Records Fresh Meat, record newydd LOYD.

Recordiau Côsh 10 o draciau gan 10 o artistiaid y label.

Lluniau: Keys Barber @amplifyingaccessibility/Instagram; Gruffydd Owen, @libertinorecs/Instagram

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.