Llynges Israel wedi atal cychod oedd yn cario cymorth i Gaza
Mae llynges Israel wedi atal cychod a oedd yn cario cymorth i Gaza ac wedi mynd â’r ymgyrchwyr oedd ar y cychod i borthladd yn Israel, yn ôl llywodraeth y wlad.
Fe gyhoeddodd Gweinyddiaeth Dramor Israel fideo nos Fercher yn dangos yr ymgyrchydd Greta Thunberg yn cael cynnig dŵr a dillad cynnes.
Dywedodd y weinyddiaeth fod y cychod “wedi cael eu hatal yn ddiogel ac mae eu teithwyr yn cael eu trosglwyddo i borthladd yn Israel”.
“Mae Greta a'i ffrindiau'n ddiogel ac yn iach,” medden nhw.
Mewn neges fore Iau dywedodd y Global Sumud Flotilla bod 15 o’r 44 o gychod oedd yn rhan o’r fenter wedi eu hatal a bod wyth arall yn debygol o fod yn y broses o gael eu hatal.
Dywedon nhw fod y cychod wedi eu cipio “yn anghyfreithlon” a lluoedd Israel wedi defnyddio canonau dŵr.
Roedd rhai llongau eraill yn dal i agosáu at Gaza, yn ôl eu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Llywodraeth Israel wedi dweud na fyddan nhw'n caniatáu i'r Global Sumud Flotilla gyrraedd Gaza gan ei fod yn “ardal lle mae ymladd yn digwydd”.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Gweinyddiaeth Dramor Israel, Eden Bar-Tal, nad oedd y llynges "yn genhadaeth ddyngarol ond yn ymgais at bryfocio yn wleidyddol".
Roedd y Global Sumud Flotilla wedi gobeithio y byddai ei longau'n cyrraedd Gaza fore Iau.
Mae asiantaethau cymorth rhyngwladol yn dweud eu bod nhw wedi bod yn ceisio cael bwyd a meddyginiaeth i mewn i diriogaeth Palesteinaidd ond bod Israel yn cyfyngu ar lif y cyflenwadau.
Mae Israel, fodd bynnag, wedi dweud eu bod nhw’n ceisio atal y cyflenwadau hynny rhag syrthio i ddwylo Hamas.