Cyfyngiadau pellach wedi i'r Tafod Glas ledaenu ar fferm yng Nghymru
Mae fferm yng Nghymru wedi ei rhoi dan gyfyngiadau pellach wedi i Brif Filfeddyg Cymru gadarnhau bod y Tafod Glas wedi lledaenu o un anifail yno.
Fe gafodd un achos o’r haint BTV-3 ar fferm yn Sir Fynwy ei gadarnhau ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, gydag un fuwch yn profi yn bositif.
Ers hynny mae ymchwiliadau epidemiolegol pellach wedi darganfod bod y clefyd “yn cylchredeg yn actif ar y fferm”.
Mae Parth Rheoli Dros Dro y Tafod Glas wedi cael ei sefydlu o amgylch y fferm o ddydd Mercher, 1 Hydref, meddai'r Prif Swyddog Milfeddygol, Richard Irvine.
“Rydym wedi sefydlu'r parth rheoli dros dro hwn i helpu i atal lledaeniad y Tafod Glas yng Nghymru,” meddai.
“Mae hyn oherwydd bod gennym dystiolaeth glir o drosglwyddiad gweithredol o haint BTV-3 yn dilyn ymchwiliadau pellach ar y fferm yr effeithir arni ger Cas-gwent, Sir Fynwy.”
Fe gafodd dau achos o’r Tafod Glas, y cyntaf ers y llynedd, eu cyhoeddi yng Nghymru ddydd Gwener. Roedd un o'r achosion hynny ym Mhowys hefyd a'r llall yn Sir Fynwy.
Nos Fawrth cyhoeddwyd bod dau achos arall o'r tafod glas wedi eu darganfod ym Mhowys. Roedd un achos wedi ei ddarganfod ger Llangamarch ac un arall ger Llanfair Llynthynwg, medd Llywodraeth Cymru.
Daw’r achosion ddyddiau yn unig ar ôl i Lywodraeth Cymru lacio cyfyngiadau ar symud da byw oedd wedi cwblhau cynllun brechu, ac heb ddangos unrhyw arwyddion o salwch, o Loegr i Gymru ar 21 Medi.
Bydd y gwartheg unigol a brofodd yn bositif am BTV-3 ar bob un o'r ffermydd yng Nghymru yn cael eu difa yn unol â strategaeth rheoli clefydau firws y Tafod Glas.
Ychwanegodd Richard Irvine: "Rwy'n annog ceidwaid anifeiliaid i barhau i fod yn wyliadwrus am arwyddion y clefyd, dod o hyd i stoc mewn modd cyfrifol ac adrodd ar unrhyw achosion amheus i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar unwaith.
"Brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn da byw a bywoliaethau rhag effeithiau gwaethaf y clefyd a allai fod yn ddinistriol iawn.
“Os ydych yn geidwad anifeiliaid, byddwn yn eich annog i drafod brechiad y Tafod Glas gyda'ch milfeddyg nawr.”
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies bod Llywodraeth Cymru a diwydiant wedi cydweithio gydol y flwyddyn i gadw'r Tafod Glas allan o Gymru “mor hir â phosibl”.
"Mae ein llwyddiant hyd yma wedi bod yn hanfodol wrth brynu'r amser sydd ei angen ar ein ffermwyr i frechu eu hanifeiliaid a pharatoi ar gyfer y Tafod Glas,” meddai.
“Mae angen i bawb nawr chwarae eu rhan a helpu i reoli ble mae clefyd y Tafod Glas yn ymddangos.
“Mae'n rhaid i ni barhau i weithio'n galed gyda'n gilydd i amddiffyn ein sectorau da byw yng Nghymru rhag y clefyd hwn a all fod yn ddinistriol iawn.”
Beth yw tafod glas?
Mae’r tafod glas yn firws sydd yn cael ei ledaenu'n bennaf gan wybedyn bach sy'n brathu.
Mae’n effeithio ar ddefaid, gwartheg ac anifeiliaid eraill sy’n cnoi eu cil fel ceirw a geifr, ac anifeiliaid fel lamas ac alpacas.
Mae’n effeithio ar iechyd a chynhyrchiant anifeiliaid. Mewn achosion difrifol, gall achosi erthyliadau a hyd yn oed marwolaeth mewn anifeiliaid heintiedig.
Un o’r symptomau yw lliw glas ar dafodau anifeiliaid oherwydd lefelau isel o ocsigen yn y gwaed.
Nid yw'n effeithio ar bobl na diogelwch bwyd, ond gall achosion arwain at gyfyngiadau ar symud anifeiliaid am gyfnod hir a masnach.
Mae'r rheolau newydd yn golygu y gall anifeiliaid sydd wedi cwblhau cynllun brechu, ac sydd heb ddangos unrhyw arwyddion o salwch, symud o'r parth dan gyfyngiadau yn Lloegr i Gymru heb brawf cyn symud.
Ym mis Medi'r llynedd, cafodd y Tafod Glas seroteip 3 (BTV-3) ei ddarganfod mewn tair dafad a gafodd eu symud i Wynedd o ddwyrain Lloegr.
Y mis canlynol, fe gafodd achos arall ei gofnodi ar fferm ar Ynys Môn, lle cafodd yr haint ei ddarganfod mewn anifail a gafodd ei symud o ddwyrain Lloegr.
Fe gafodd y cyfyngiadau rheini eu codi ym mis Tachwedd y llynedd.