‘Cyfaill annwyl’: Teyrnged Leonardo DiCaprio i’w ‘arwr’ Jane Goodall
Mae’r seren Hollywood Leonardo DiCaprio wedi rhoi teyrnged i’w “gyfaill annwyl” a’i “arwr” Jane Goodall ar ôl ei marwolaeth yn 91 oed.
Bu farw'r cadwraethwr, a oedd yn arbenigwr ar ymddygiad tsimpansïaid, o achosion naturiol yng Nghaliffornia, meddai Sefydliad Jane Goodall mewn datganiad ddydd Mercher.
Rhannodd seren y Titanic, sy’n 50 oed, luniau ar Instagram o’i hun a’r Fonesig Jane, a oedd yn ferch i'r nofelydd Margaret Myfanwe Joseph o Aberdaugleddau.
Fe gafodd hi ei hurddo Negesydd Heddwch y Cenhedloedd Unedig yn 2002, 12 mlynedd cyn i DiCaprio gael yr un teitl hefyd.
“Heddiw rydym wedi colli arwr gwirioneddol i’r blaned, ysbrydoliaeth i filiynau, a ffrind annwyl,” meddai DiCaprio.
“Neilltuodd Jane Goodall ei bywyd i ddiogelu ein planed a rhoi llais i’r anifeiliaid gwyllt a’r ecosystemau y maent yn byw ynddynt.
“Trawsnewidiodd ei hymchwil arloesol ar tsimpansïaid yn Tanzania ein dealltwriaeth o sut mae ein perthnasau agosaf yn byw, yn cymdeithasu ac yn meddwl.
“Fe wnaeth hi ein hatgoffa am ein cysylltiadau dwfn nid yn unig â tsimpansîod a’r epaod mawr eraill, ond â bywyd yn gyffredinol.
“Am ddegawdau, teithiodd Jane y byd gydag egni diflino, gan ddeffro cenedlaethau i ryfeddod y byd naturiol.
“Siaradodd yn uniongyrchol â’r genhedlaeth nesaf, gan feithrin gobaith, cyfrifoldeb a’r gred y gall pob unigolyn wneud gwahaniaeth.
“Ysbrydolodd filiynau i ofalu, i weithredu, ac i obeithio. Ni stopiodd byth.”
Mae cyn-arlywyddion yr Unol Daleithiau Joe Biden, Bill Clinton a Barack Obama ymysg y rheini sydd wedi rhoi teyrngedau i Jane Goodall.
Dywedodd Mr Biden ei fod wedi'i "dristáu'n fawr" gan y newyddion am farwolaeth Dame Jane, tra bod Mr Obama wedi canmol ei "gallu rhyfeddol" i "gysylltu â rhyfeddodau naturiol ein byd".
Llun gan Leonardo DiCaprio ar Instagram.