‘Byddai yn well gen i farw’: Rhybudd mam i gymryd brechlyn ffliw ar ôl cael niwmonia
Mae mam i ddau o blant a gafodd niwmonia ar ôl methu ei brechiad ffliw wedi dweud y byddai'n "well gen i farw" na wynebu’r un profiad eto.
Mae Charlotte Bessent, o Landaf yng Nghaerdydd, yn galw er eraill i sicrhau eu bod nhw’n cael y brechiad os oes modd fel nad oes rhaid iddyn nhw wynebu’r un profiad.
Nid oedd modd iddi weithio am chwe mis wrth iddi frwydro gydag anawsterau anadlu parhaus, meddai.
“Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n boddi,” meddai Charlotte, 38. “Roeddwn i’n teimlo’n oer fel rhew, ond roeddwn i’n llosgi - roedd fy nhymheredd mor uchel.
“Digwyddodd y cyfan mor gyflym o fod yn 'annwyd' i fethu yfed, symud nac eistedd i fyny, siarad neu gyflawni swyddogaethau sylfaenol.”
Roedd hi’n meddwl ei bod yn gwella o annwyd gaeafol rheolaidd pan ddeffrodd un noson ym mis Ionawr y llynedd yn crynu gyda thwymyn uchel iawn.
Erbyn y bore roedd hi mor sâl nes i'r meddyg teulu ddod allan i'w thŷ, ac fe gafodd ei hanfon yn syth i ofal brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Yno cafodd Charlotte ddiagnosis o niwmonia a rhoddwyd gwrthfiotigau mewnwythiennol iddi.
Yn anffodus, rhoddodd y rhain adwaith alergaidd iddi, felly cafodd ei newid i wrthfiotigau drwy’r geg a wnaeth gymryd yn hirach i weithio.
Cyfaddefodd Charlotte, cydlynydd prosiect mewn cwmni adeiladu, ei bod hi'n teimlo mor sâl nes ei bod hi'n crio ym mreichiau ei gŵr.
Cafodd ei salwch effaith ar ei theulu cyfan, yn enwedig ei merch a oedd yn wyth oed ar y pryd, medda.
“Roedd hi’n dysgu am lowyr a fu farw o niwmonia yn ei gwersi hanes, a wnaeth beri gofid mawr iddi oherwydd ei bod hi wedi gwneud y cysylltiad ac wedi meddwl os oedd gan Mam niwmonia y byddai hi’n marw hefyd,” meddai Charlotte.
‘Pwysau’
Mae gan Charlotte sawl cyflwr iechyd cronig a oedd yn bodoli eisoes gan gynnwys arthritis, ffibromyalgia ac endometriosis, sy'n golygu ei bod hi'n gymwys i gael y brechiad ffliw bob blwyddyn”.
Dywedodd ei bod hi bellach yn gwneud yn siŵr ei bod yn ei gael bob blwyddyn ac ychwanegodd: “Byddai’n well gen i farw na bod mor sâl â hynny eto”.
Dywedodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro bod y gaeaf yn dod â risg uwch o afiechydon anadlol.
Mae'r brechiad ffliw yn arbennig o bwysig i bobl sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes gan eu bod yn fwy tebygol o fynd yn sâl iawn a bod angen triniaeth ysbyty, meddai.
“Drwy gael eich brechu, nid yn unig rydych chi'n amddiffyn eich hun, ond hefyd rydych yn helpu i leihau'r pwysau ar y GIG ac yn diogelu'r rhai o'ch cwmpas, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr,” meddai.