'Pwysicach nag erioed bod ein lleisiau'n cael eu clywed' medd dramodydd traws

ITV Cymru

'Pwysicach nag erioed bod ein lleisiau'n cael eu clywed' medd dramodydd traws

Mae’r dramodydd Leo Drayton, 24, o Gaerdydd, yn defnyddio’r theatr i ymateb i ‘rwystrau’ mae pobl traws yn eu hwynebu.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Leo wedi ysgrifennu sioe newydd, Dynolwaith, sy’n cael ei pherfformio ganddo hefyd.

Fe wnaeth profiadau personol Leo, fel Cymro trawsrywiol, ysbrydoli’r stori, ac mae’n dadlau bod y sioe yn blatfform pwysig:

“Ar adeg pan mae'r gymuned draws yn cael ei thargedu a’i cham-gyfleu, mae'n bwysicach nag erioed bod ein lleisiau'n cael eu clywed.”

Wrth lansio’r sioe, meddai Leo: “Mae'n fraint cael dweud y stori hon, yn enwedig yn y Gymraeg. 

“Mae’n gynrychiolaeth pwysig, a chynrychiolaeth pwerus. Mae’r sioe yn dangos elfennau o’r profiad traws ‘dyn ni ddim yn clywed amdano.

“Alla’i ddim dychmygu tîm gwell yn helpu fi i ddweud y stori hon.”

Mae’r sioe yn cael ei chyd-gynhyrchu gan gwmni Frân Wen, gyda Gethin Evans yn cyfarwyddo’r sioe.

“Mae gan y gymuned draws gyfoeth o straeon i’w rhannu, gyda phob un yn mapio siwrnai unigryw a thrawsnewidiol," meddai Gethin Evans.

“Ar ôl gweithio’n agos gyda Leo dros y ddwy flynedd diwethaf, rydym yn gyffrous i rannu geiriau Leo a chreu gofod i eraill rannu eu geiriau nhw eu hunain,” meddai Gethin.

Bydd Dynolwaith yn cael ei berfformio yn Theatr y Sherman tan 4 Hydref, cyn mynd ar daith genedlaethol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.