Cwpl a gollodd eu merch yn annog brechu ar gyfer llid yr ymennydd
18/11/2025Mae cwpl o Bont-y-pŵl yn galw ar i bobl gael eu brechu rhag mathau gwahanol o straen llid yr ymennydd ar ôl i'w merch farw yn sydyn o'r haint eleni.
Roedd Megan Draper, oedd yn 18 oed, wedi dechrau cwrs ffisiotherapi ym Mhrifysgol Bournemouth.
Ond bum wythnos wedyn cafodd lid yr ymennydd ac fe fuodd hi farw.
"Roedd Megan yn brydferth. A dim jest yn brydferth o'r tu allan ond prydferth tu fewn. Roedd hi mor garedig a gofalgar," meddai ei mam, Helen.
Roedd Megan wedi cael pigiad rhag llid yr ymennydd yn yr ysgol ond heb yn wybod i'w theulu doedd hi ddim wedi ei brechu rhag pob math o'r straen.
"Fe wnaethon ni ddarganfod wedyn bod y straen y gwnaeth Meg farw ohono, doedd hi ddim wedi cael pigiad yn ei erbyn a doedd ganddon ni ddim syniad," meddai Lee, ei thad.
Fe fuodd Megan farw ar ôl cael llid yr ymennydd straen B. Dyw'r pigiad ddim ar gael ar y gwasanaeth iechyd i bobl sydd wedi eu geni cyn 2015 ond mae babanod dan un oed yn medru cael y brechlyn.
Nawr mae Helen a Lee yn cefnogi ymgyrch yr elusen Meningitis Now i roi pigiad straen B i bobl sydd mewn mwyaf o berygl o gael y straen, gan gynnwys myfyrwyr.
"Fe aeth hi i'r brifysgol yn berson. Roedd hi'n dda yn chwaraeon, yn ffit, ifanc ac iach. Doedden ni byth yn disgwyl i hyn ddigwydd. A pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd, mae darganfod wedyn bod yna frechlyn y gallai hi fod wedi ei gael byddai yn golygu y byddai hi dal yma, mae'n anodd iawn i ddirnad hynny," meddai Helen.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cymryd cyngor ynglŷn â rhaglen frechu gan bwyllgor brechu ac imiwneiddio. Mae'r pwyllgor hwnnw yn rhoi cyngor ar ddiogelwch ac amserlen brechu.
