Rhybudd melyn am eira i'r de orllewin

18/11/2025
Eira (Llun Lynwen Williams)

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira i siroedd yn y de orllewin rhwng 12:00 dydd Mercher a 23:59 nos Iau.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro ag Abertawe.

Mae siawns fach y bydd palmentydd a llwybrau beicio heb eu trin yn anodd eu defnyddio

Fe allai gwasanaethau bysiau a thrên gael eu gohirio neu eu canslo hefyd, gyda rhai ffyrdd ar gau ac amseroedd teithio hirach i deithwyr.

Gallai anafiadau ddigwydd o ganlyniad i lithro a chwympo ar dir rhewllyd meddai'r Swyddfa Dywydd, ac f e all rhai cartrefi fod heb drydan.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.