Carcharu dyn am wyth mlynedd am ddynladdiad 'disynnwyr' yn Wrecsam

Paul Ince

Mae dyn 31 oed wedi ei garcharu am wyth mlynedd am ddynladdiad dyn arall 59 oed oedd wedi mynd i'r fflat anghywir i brynu cyffuriau.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands yn Llys y Goron yr Wyddgrug fod Paul Ince o Wrecsam wedi dyrnu John Ithell o Bentre Gwyn, Wrecsam, gan achosi anaf angheuol i'w ymennydd ar ôl iddo ddisgyn i'r llawr.

Dywedodd y barnwr fod Ince wedi rhedeg allan o fflat ei ffrind ym Mhont Wen, Wrecsam, mewn “tymer feddw” ond nad oedd Mr Ithell “yn peri unrhyw fygythiad o gwbl.”

“Does dim dwywaith ei fod wedi eich cythruddo chi a’r ddau arall y tu mewn i’r fflat,” meddai wrth Ince. 

Roedd yn “ymosodiad meddw a disynnwyr,” ac fe “gollodd Ince ei synhwyrau am eiliad.”

Cafodd Mr Ithell ei gludo i Ysbyty Maelor yn Wrecsam ar ôl cael ei ddarganfod wedi'i anafu. 

Ond gwaethygodd ei gyflwr a bu farw'r un bore.

Roedd Ince wedi gwadu dynladdiad Mr Ithell yn y digwyddiad ym mis Mehefin 2023.

Dywedodd teulu'r dioddefwr ei fod yn "gymeriad lliwgar" ond yn dad a thaid cariadus. 

Roedd Ince wedi dangos "haerllugrwydd llwyr" yn ystod yr achos llys meddai'r teulu.

Dywedodd Duncan Bould ar ran yr amddiffyniad mai un ergyd oedd yr un laddodd Mr Ithell, dan ddylanwad alcohol, gyda chanlyniadau angheuol anfwriadol. 

Roedd Ince yn weithiwr caled a byddai'n "colli llawer" yn ystod ei ddedfryd o garchar. 

 
 
 
 

  

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.