Pontyberem: Parth gwarchod mewn grym ar ôl darganfod ffliw adar 'pathogenig iawn'
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan parth gwarchod ffliw adar ar ôl cadarnhau achos o ffliw adar pathogenig iawn mewn dofednod yn ardal Pontyberem, Sir Gâr.
Mae parth tri chilometr a pharth gwyliadwriaeth 10 cilometr o amgylch y safle sydd wedi ei heintio meddai'r cyngor lleol.
Bydd Swyddogion Iechyd Anifeiliaid o Gyngor Sir Caerfyrddin yn ymweld â'r holl safleoedd o fewn y parthau sydd wedi'u sefydlu i helpu i atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach.
Mae unrhyw safleoedd sydd â dofednod neu adar eraill bellach yn dod dan amodau amodau penodol a chyfyngiadau symud, gan gynnwys mesurau bioddiogelwch uwch.
Mae'r clefyd a gadarnhawyd ym Mhontyberem yn cael ei achosi gan straen pathogenig iawn o ffliw adar sydd wedi'i addasu ar gyfer adar ac sy'n peri risg isel iawn i iechyd pobl.
Ni fydd angen i unrhyw breswylydd neu berchennog busnes yn ardal Pontyberem nad yw'n cadw adar gymryd unrhyw gamau pellach meddai Cyngor Sir Gâr.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
"Mae cadarnhau achos o ffliw adar yn ardal Pontyberem yn newyddion trist iawn i berchennog y dofednod dan sylw, ond rwyf am roi sicrwydd i'r preswylwyr fod y feirws hwn yn peri risg isel iawn i iechyd pobl.
“Rwy'n annog y rhai sy'n cadw dofednod neu adar eraill yn yr ardal i ddilyn y mesurau bioddiogelwch uwch. Mae unrhyw un sy'n cadw adar y tu allan i'r parthau hyn, ond yng Nghymru, yn dal i fod yn destun cyfyngiadau parthau atal Cymru gyfan Llywodraeth Cymru a ddaeth i rym ar 13 Tachwedd.”
