‘Rhwystredig’: Galw am adfer gwasanaeth bws pentref yng Ngheredigion
Mae trigolion pentref yng Ngheredigion yn galw am adfer gwasanaeth bws a gafodd ei dorri dwy flynedd nôl.
Bydd trigolion Cribyn yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i ail-gyflwyno bws mewn cyfarfod cyhoeddus fore Mawrth.
Mae’n ddwy flynedd ers i wasanaeth bws ‘Bwcabus’ a oedd yn gwasanaethau nifer o bentrefi gwledig yr ardal ddod i ben ym mis Hydref 2023.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadw y gwasanaeth hwnnw i fynd am gyfnod yn sgil colli cyllid ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth wledig a gefnogwyd yn flaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd, cyn cyhoeddi y byddai yn dod i ben.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Dilwen Jenkins (uchod) sydd yn byw ym mhentref Cribyn nad oedd “sens bod dim bys gyda ni”.
“Fi’n dreifo ar hyn o bryd ond fi’n gorfod dreifo i Felinfach i ddal bys i Gaerfyrddin ac Aberystwyth,” meddai.
“Smo ni moyn e trw dydd ond gwed sen ni’n cal e rhyw dwy neu dair gwaith y dydd.”
Mae Euros Lewis yn byw yng Nghribyn ac yn gweithio yn Felinfach ac fe fyddai yn “croesawu gallu defnyddio fy mhas bws i gyrraedd [y gwaith]”.
Flwyddyn a hanner yn ôl prynwyd Ysgol Cribyn gan drigolion y pentref. Sgwrs yn un o foreau coffi'r ysgol dechreuodd y gweithredu dros gael gwasanaeth fysiau.
“Un o’r pethau mwyaf positif am ddatblygu’r ysgol yn Cribyn yw bod yr uchelgais o adfer gwasanaethau yng nghefn gwlad yn gafael,” meddai.
Dywedodd ei fod yn credu bod gwasanaeth fysiau yn un o’r atebion hefyd i newid hinsawdd gan ddweud fod “clust fyddar i’r potensial i leihau allyriadau carbon wrth ailgyflwyno’r gwasanaeth fysiau”.
Mae Mattie Evans, sy’n byw ar gyrion Cribyn, yn un o’r rheini sy’n cefnogi adfer gwasanaeth bws i’r pentref.
“Mae’n ofnadw o bwysig i gael bysys yn Cribyn am y rheswm ma fe wedi bod dros y blynyddoedd ac odd pobol yn dibynnu arno fe,” meddai wrth Newyddion S4C.
Fe fuodd yna fws cyhoeddus yn rhedeg drwy Cribyn am flynyddoedd ac “odd e ddim dim ond ar gyfer pobl i deithio, odd e’n rhyw fath o ‘delivery service’ hefyd” yn ôl Mattie Evans.
“Daeth y Bwcabus mewn yn lle y T1 ond heb y Bwcabus, ble i ni’n sefyll nawr?”
Pan sefydlwyd y gwasanaeth bws T1 rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth roedd hwnnw yn mynd drwy gymunedau Cribyn a Llanwnnen ambell dro ar yr amserlen.
Ond daeth y gwasanaeth drwy Cribyn i ben wrth iddo gael ei olynnu gan ‘Bwcabus’.
Dywedodd Mattie Evans bod y T1 wedi “rhoi gwasanaeth cyflawn mewn ffordd”.
Ar ôl byw yng Nghribyn trwy gydol ei hoes, mae Olwen Davies yn cofio mynd ar y bws ar draws y sir a thu hwnt.
“On ni di cyfarwyddo da fe – dim ond croesi hewl a o ni’n gallu mynd unrhywle bron bob awr!” meddai.
Mae bws gymunedol yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr trwy Gribyn bob dydd Mercher a Gwener erbyn hyn.
“Ni’n lwcus ohonno fe [y bws cymunedol] ond bydde yn help i gal gwasanaeth bws nôl trwy Cribyn,” meddai Olwen Davies.
“On ni’n gallu mynd pryd mynnon ni ond ma’ hi wedi mynd nawr, fi ddim yn gyrru cymaint so bydde bys yn help.”
Mae Delyth Davies o'r pentref hefyd yn obeithiol bydd Llywodraeth Cymru a Traws Cymru yn “gwrando” ac y byddan nhw’n “gweld bys yn dod nôl trwy Gribyn”.
“Ma nhw’n dod o’r Llywodraeth a Traws Cymru i wrando arno ni felly gobeithio bydd rhyw fath o wasanaeth yn dod nôl i’r pentref,” meddai wrth Newyddion S4C.
Mae'r bws cymunedol yn “help ond ma fe yn job cal gwirfoddolwyr i gadw fe lan trwy’r amser” meddai.
Ymateb y Llywodraeth
Yn ôl yr Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, mae’n “croesawu” y cyfle i drafod â phobl y prentref.
“Byddwn yn gwrando ar yr hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud ac yn defnyddio’r adborth pan fydd Cyngor Sir Ceredigion a TrC yn gweithio ar welliannau i’r rhwydwaith flwyddyn nesaf, pan fydd y gwasanaeth yn mynd allan i dendr," meddai.
“Yn y tymor hir, bydd ein bil bysiau yn newid yn sylfaenol y ffordd y mae gwasanaethau bysiau’n cael eu darparu yng Nghymru – gan sicrhau bod anghenion cymunedau’n cael eu diwallu.”
