Arestio dau wedi i ddisgybl ysgol gael ei daro'n wael ar ôl defnyddio fêp
Mae dyn 19 oed a bachgen yn ei arddegau wedi eu harestio ar ôl i ddisgybl ysgol gael ei daro'n wael ar ôl defnyddio fêp.
Cafodd y ddau eu harestio yn ardal Bae Colwyn ddydd Llun ar amheuaeth o ddosbarthu cyffuriau dosbarth C meddai'r heddlu ac maent yn parhau yn y ddalfa.
Mae'r arestio yn gysylltiedig gyda gwerthiant fêp. Y gred yw bod y fêp yn cynnwys y cyffur 'Spice'.
Daw hyn wedi adroddiadau bod disgybl mewn ysgol uwchradd wedi mynd yn sâl ar ôl cymryd fêp oedd yn cynnwys sylweddau anhysbys.
Dywedodd yr Arolygydd Mathew Kelly-Smith bod hyn wedi bod yn "ddigwyddiad difrifol" a'i fod yn deall y "pryder mae hyn wedi achosi i nifer o rieni ac aelodau o'r gymuned."
"Ein blaenoriaeth yn yr achos yma yw amddiffyn pobl ifanc yn yr ardal rhag dod i niwed."
Ychwanegodd bod y llu yn ceisio darganfod yr hyn ddigwyddodd i'r disgybl ysgol a'u bod eisiau gwybod pa mor "eang y mae'r fepiau peryglus hylifol yma wedi eu dosbarthu i'r ardal leol".
"Rydyn ni yn gynyddol yn gweld trend cenedlaethol o gynnyrch fepiau sydd gyda chyffuriau synthetig anghyfreithlon-sylweddau sydd yn gallu achosi i berson i ymateb mewn ffordd nad oes modd darogan ac yn gallu peryglu bywyd."
Dywedodd hefyd bod y cynnyrch yn aml yn cael ei marchnata i bobl ifanc a'u bod yn cydweithio gydag asiantaethau eraill i daclo'r broblem.
Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda 101 gan roi'r cyfeirnod C177034 neu yn ddienw trwy gysylltu gyda Crimestoppers.
