Newyddion S4C

Galwadau i ddangos parch at gerrig hanesyddol Sir Benfro

Newyddion S4C 17/08/2021

Galwadau i ddangos parch at gerrig hanesyddol Sir Benfro

Mae awdurdodau yn Sir Benfro wedi annog pobl sy’n ymweld â’r sir i ddangos parch wrth iddynt ymweld â safleoedd sydd o ddiddordeb archeolegol.

Daw hyn yn sgil pryderon bod rhai yn difrodi’r safleoedd.

Mae mwy o bobl yn ymweld â rhai safleoedd yn dilyn rhaglen ddogfen a gafodd ei darlledu ar y BBC, Stonehenge: The Lost Circle Revealed.

Awgrymodd y rhaglen fod cerrig gleision Côr y Cewri wedi cael eu codi yn wreiddiol ar fynyddoedd y Preseli, cyn cael symud i Gaersallog.

Dywedodd Tomos Jones o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae’n really positif, i weld bod pobl eisiau darganfod mwy amdan y safleoedd yma. 

“Ond yn anffodus, un o’r problemau ‘da ni ‘di dechrau dod o hyd i, ydy bod pobl yn o bosib yn parcio mewn llefydd ac maen nhw’n blocio ffyrdd.

“A dwi’n meddwl bod pobl ddim yn ymwybodol bod y safleoedd ‘ma wedi’u cofrestru o safbwynt treftadaeth ond hefyd o safbwynt naturiol hefyd”.

Dywedodd y Cwnstabl Kate Allen o Heddlu Dyfed Powys, “Rydym wedi derbyn adroddiadau fod cerrig wedi eu symud, a’u torri wrth chwilio am Bluestone Preseli.

“Mae gan bobl ddiddordeb, a dwi ddim yn meddwl bod llawer o bobl yn sylweddoli ei fod yn safle sydd wedi ei warchod, heneb hanesyddol, felly mae e wedi ei warchod gan y gyfraith.

“Ni fydd rhai pobl, dwi ddim yn meddwl, yn sylweddoli ei bwysigrwydd a bod symud neu ddifrodi neu ddinistrio unrhyw beth yn drosedd”.

Llun: Becky Williamson (drwy Geograph)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.